Beth yw fy opsiynau? …

Gorffen coleg ym mis Mehefin a meddwl tybed beth i’w wneud nesaf? Beth am feddwl am brentisiaeth?

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn ffordd i bobl ifanc ac oedolion ennill cymwysterau wrth weithio a chael profiad ymarferol bywyd go iawn.

Mae prentisiaethau ar gael ar draws ystod o sectorau gan gynnwys; TG, y gyfraith, rheoli, lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd, rheoli adnoddau, manwerthu a mwy.

Mae’r hyfforddiant a ddarperir yn dilyn Fframwaith Cenedlaethol sy’n eich galluogi i ennill cymwysterau o lefel 2 hyd at lefel gradd, ond trwy ymgymryd â phrentisiaeth ni fydd rhaid mynychu darlithoedd, bydd dim dyled myfyrwyr a byddech chi’n dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nodau gyrfa.

Pam dod yn Brentis:

  • Rydych chi’n dysgu yn y swydd
  • Ennill wrth ddysgu
  • Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu heriau newydd
  • Ennill cymwysterau cydnabyddedig y mae cyflogwyr yn eu parchu
  • Cyfleoedd dilyniant rhagorol, p’un ai am astudio ymhellach neu ddringo’r rhengoedd yn y gweithle
  • Dysgu ar gyflymder sy’n addas i chi gyda chefnogaeth swyddog hyfforddi

 

Mae yna lawer o resymau gwych i gofrestru fel prentis ar ôl gadael y coleg, os ydych chi am ddarganfod mwy ewch i’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau lle gallwch chi gofrestru a chwilio am y prentis a fydd yn addas i chi.

Mae gennym lawer o swyddi gwag ar gael ar ein gwefan hefyd, cliciwch YMA i’w gweld.

Os ydych chi’n gyflogwr a bod gennych ddiddordeb mewn llogi prentis, cysylltwch â’n tîm – info@cambriantraining.com