Blog Cystadleuydd Sgiliau’r Byd 2021 – Ben Roberts

Enw: Ben Roberts

Oedran: 29

Gweithle: M. E. Evans Ltd.

Rwyf wedi gweithio yn y diwydiant cigyddiaeth bron gydol fy oes, er nad wyf yn dod o deulu cigyddiaeth. Wrth dyfu i fyny, roedd tad fy ffrind gorau yn rhedeg siop cigydd llwyddiannus iawn, ac roeddem bob amser yn chwarae o gwmpas cefn y siop. Wrth inni dyfu’n hŷn, roedd galw arnom i helpu gyda dosbarthu’r tyrcwn adeg y Nadolig a chreu cebabs yn ystod yr haf.

Nid oedd yn fwriad gen i i fod yn gigydd, ac ar ôl cwblhau fy TGAU es i i’r coleg i astudio dylunio graffeg a ffotograffiaeth. Roeddwn yn gweithio rhan amser mewn siop gigydd. Fodd bynnag, nid oedd y cwrs hwn yn addas i mi ac es i at fy rheolwr i holi am swydd llawn amser fel cigydd wrth imi ystyried beth oeddwn am wneud efo’m mywyd..

Yn ffodus i mi, roedd ganddo le, ac erbyn hyn  rwyf wedi gweithio bron 12 mlynedd yn llawn amser yn y diwydiant ac yn rheoli a datblygu’r ail siop. Gallaf ddweud yn onest mod wedi gwneud penderfyniad da i fod yn gigydd.

Wrth weithio fel cigydd dros y blynyddoedd rwyf wedi gallu parhau i ddysgu gyda chefnogaeth prentisiaeth yn y gwaith. Wrth i’m gyrfa cigyddiaeth fynd yn ei flaen, rwyf wedi gallu cyflawni cymwysterau uwch sy’n adeiladu fy ngwybodaeth a’m hyder yn fy ngwaith.

Rwyf wedi bod eisiau cystadlu yn World Skills ers sawl blwyddyn bellach, ond wedi methu neilltuo’r amser, sydd ei angen i’r gystadleuaeth, i’w gwneud yn bosibl. Eleni, ar ôl y 12 mis diwethaf o galedi ac ymdrech gan bawb sy’n ymwneud â’n busnes, mae Mike, fy rheolwr, wedi caniatáu imi neilltuo mwy o amser i ganolbwyntio ar gystadlu cigyddiaeth. Rwyf wedi bod yn hynod lwcus o gael fy newis i gynrychioli Tîm Crefft Cigyddiaeth Cymru yn Her Cigyddion y Byd fis Medi nesaf 2022 a bydd Sgiliau’r Byd yn caniatáu imi ddatblygu sgiliau a phrofiad allweddol i symud ymlaen i’r cam byd-eang hwn. Rwy’n teimlo bod fy mhrentisiaeth wedi caniatáu imi deimlo’n barod i gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau’r Byd y DU eleni.

Ar ôl derbyn y brîff ar gyfer y gystadleuaeth, dechreuais ymchwilio i’r technegau cigyddiaeth gywir i gyflawni’r dasg cigyddiaeth gychwynnol. Tynnais ar fy hyfforddiant prentisiaeth, a ddarparwyd gan Hyfforddiant Cambrian, i gymhwyso fy ngwybodaeth a’m profiad yn y gweithle er mwyn deall yn llawn yr hyn a ofynnwyd. Yna dechreuais roi hyn ar waith a rhoi cyllell i’r cig, a dros sawl wythnos, fe wnes i ddatblygu fy sgiliau ymhellach, â’r union safonau sy’n ofynnol.

Wrth wneud hyn roeddwn hefyd yn dechrau edrych ar, a deall y gwahanol doriadau yr oeddwn yn eu cynhyrchu, gyda’r ail dasg arddangos arloesol yn flaenllaw yn fy meddwl. O’r sesiynau ymarfer hyn, roeddwn i’n gallu cwblhau’r cynnyrch roeddwn i eisiau eu dangos i’r beirniaid a mesur y ffordd orau o weithio i ateb yr holl ofynion sy’n ofynnol yn y ffrâm amser a osodwyd.

Dim ond un gystadleuaeth cigyddiaeth yr wyf wedi’i gwneud o’r blaen ac roedd hynny flynyddoedd yn ôl. Felly ymgymerais â’r gystadleuaeth gyda meddwl agored iawn. Roedd y rownd rithiol yn brofiad anghyffredin ond yn sicr nid yn annymunol. Un o’r rhannau anoddaf oedd creu’r lle yn ein siop fach i wneud y gystadleuaeth heb unrhyw darfu ar hynny, ond unwaith i mi weithio hyn allan roeddwn i’n gallu setlo a chanolbwyntio’n dda. Roedd y cynefindra o fod yn y siop mewn rhai ffyrdd wedi helpu, oherwydd amgylchedd gwaith bob dydd, ac roeddwn yn medru defnyddio hynny i ymlacio yn y gystadleuaeth, yn well nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Roedd y tasgau gosod yn heriol, gan ganiatáu inni wthio ein creadigrwydd a ninnau, ond nid mor heriol â bod yn frawychus ac yn annymunol.

Fy nodau tymor hir gobeithio o fewn cigyddiaeth, yw cyrraedd rowndiau terfynol Sgiliau’r Byd eleni ac yna mynd â’r profiad ymlaen i Her Cigyddion y Byd y flwyddyn nesaf. Gobeithio y gellir dod â’r sgiliau a’r profiad rwy’n eu hennill yn ôl i’r siop, a fydd un diwrnod yn caniatáu imi redeg fy siop fy hun.

I unrhyw un sydd am roi cynnig ar brentisiaeth a chystadleuaeth cigyddiaeth, y cyfan y gallaf ei ddweud yw ewch amdani. Mae rhwydwaith enfawr o gefnogaeth ar gael a bydd y sgiliau a’r profiad y gallwch eu hennill yn eich gwella fel cigydd. Peidiwch byth â bod ofn rhoi cynnig arni oherwydd bydd pawb yn eich cefnogi ac yn eich annog i’w wneud, dyna rydw i wedi’i ddarganfod!

I ddarganfod mwy  am y cystadlaethau rydyn ni’n eu rhedeg cliciwch YMA

Am droi eich angerdd yn yrfa?

Ymgymerwch â phrentisiaeth, edrychwch ar ein swyddi gwag cyfredol YMA