Buddsoddi mewn diogelu data yn talu i Hyfforddiant Cambrian

Mae darparwr hyfforddiant blaenllaw o Gymru wedi cyflawni un o’r safonau uchaf a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer systemau diogelwch gwybodaeth.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi cyflawni ardystiad ISO 27001, dair blynedd ar ôl datblygu System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth (ISMS) sy’n cydymffurfio er mwyn rheoli gwybodaeth a diogelwch seiber ar draws y busnes.

Ac ar ôl arddangos bod ei ISMS wedi dod yn rhan annatod o’r busnes ac aeddfedu i reoli’n effeithiol y data personol a’r gofynion diogelwch sy’n gysylltiedig â darparu dysgu yn y gwaith yng Nghymru, fe gyflawnodd y cwmni ei ardystiad allanol.

Gwnaeth tîm Elen Rees, Cyfarwyddwr Cyllid Cwmni Hyfforddiant Cambrian, arwain y prosiect, a rhoddodd yr ardystiad yn ei gyd-destun: “Mae darparu’r lefel hon o atebolrwydd yn dangos i’n cwsmeriaid, ein dysgwyr a’n staff yr hyn y gallant ei ddisgwyl o’n hymarferion preifatrwydd a diogelwch.

“Mae fy nhîm wedi gwneud gwaith gwych yn adeiladu’r system reoli dros y tair blynedd diwethaf ac mae pawb ohonom wedi dysgu llawer iawn.”

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau yn y gwaith, Twf Swyddi Cymru a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ar draws Cymru gyfan. Mae ei fusnes craidd yn y diwydiannau bwyd a diod ac arlwyo a lletygarwch.

Cafodd y gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon dderbyniad gwresog gan Arwyn Watkins OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr, a ychwanegodd: “Gwnaethom ddewis fynd ar drywydd ISO 27001 nid oherwydd bod hyn yn ofynnol gan raglen dysgu yn y gwaith Llywodraeth Cymru, ond oherwydd ein bod yn cymryd y cyfrifoldeb hwn yn wirioneddol o ddifrif a byddwn yn parhau i wthio ein hunain a’r diwydiant tuag at y safonau uchaf o ran diogelwch a diogelu data.”

Bydd y cwmni yn parhau â’i fuddsoddiad ISMS i’w roi mewn sefyllfa gref ar gyfer mabwysiadu datrysiadau a gwasanaethau technolegol newydd yn y dyfodol.

Yn ogystal â’r pencadlys yn y Trallwng, mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian swyddfeydd rhanbarthol yn Llanelli, Caergybi, Bae Colwyn a Llanfair ym Muallt.