Prentis Cigydd

Cigydd
Llanidloes
Posted 3 months ago

Prentis Cigydd

Pilgrim’s UK Lamb Ltd. Dolwen, Oakley Park, Llanidloes SY18 6LX

Rydym yn chwilio am ddarpar gigyddion i ymuno â’n hacademi cigyddiaeth yn Llanidloes. Drwy gwblhau’r rhaglen hon, byddwch yn dod yn gigydd cymwys a all ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y cwmni. Bydd gan bob prentis gynllun hyfforddi pwrpasol fel rhan o hyn, byddwn yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cigyddiaeth a gydnabyddir yn genedlaethol gyda darparwr hyfforddiant. Bydd yr holl ddysgu’n digwydd yn y gweithle lle bydd ein darparwr hyfforddiant a’n tîm profiadol mewnol yn edrych ar ôl eich datblygiad ac yn sicrhau eich bod yn dysgu sgiliau newydd.

Ar ôl eich prentisiaeth, gallwch ddatblygu eich gyrfa drwy’r rhengoedd mewn Cigyddiaeth, gan gynyddu eich potensial i ennill. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu parhaus i’r unigolion sy’n awyddus i symud ymlaen ac sy’n uchelgeisiol. Mae nifer o’n prentisiaid blaenorol bellach yn Reolwyr ac Arweinwyr Tîm. Mae eich dyfodol yn eich dwylo chi, dyma’r cyfle i chi ddod yn arbenigwr cig a thyfu eich busnes. Y diwydiant bwyd yw’r dyfodol ar gyfer tyfu talent, ac rydym am fod yn rhan ohono!

Dyletswyddau dyddiol: 

  • Sicrhau bod cynhyrchion yn cael eu prosesu yn unol â gofynion y cwsmer.
  • Sicrhau eich bod yn gwneud gwaith hyd eithaf eich galluoedd er mwyn cwrdd â therfynau amser cynhyrchu
  • Ceisio hyfforddiant i gynnal eich sgiliau a pharhau i fod yn gyfoes ag arfer gorau.
  • Gweithio fel rhan o dîm a chymryd cyfrifoldeb am eich gwaith eich hun.
  • Cydymffurfio â pholisïau’r cwmni, Iechyd a Diogelwch a Safonau Diogelwch Bwyd bob amser.
  • Cynnal dyletswyddau rhesymol eraill sy’n angenrheidiol ar gyfer anghenion busnes.

Priodoleddau Personol Delfrydol:

  • Rydym yn chwilio am ddarpar gigyddion i ymuno â’n hacademi cigyddiaeth.
  • Os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd a gweithio fel rhan o dîm, yna hoffem glywed gennych.

Cymwysterau gofynnol

Agwedd a pharodrwydd i ddysgu yw’r peth pwysicaf.

Cwrs prentisiaeth:

Tystysgrif Lefel 2 ar gyfer Hyfedredd mewn Sgiliau diwydiant Cig a Dofednod.

Gofynion o ran y Gymraeg

Dim

Tal:

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau gyda chyflog o £11.00 yr awr, gan gynnwys buddion ychwanegol

Oriau:

Dros 41 awr yr wythnos

Trefniadau cyfweliad:

Ar y safle

Gwneud Cais:

Anfonwch eich CV i vicki.jones@pilgrimsuk.com