Prentis Gwerthwr Pysgod

Sgiliau'r Diwydiant Bwyd
Abertawe
Posted 2 weeks ago

Prentis Gwerthwr Pysgod

Swasnea Fish, Uned 5, Fishmarket Quay, Trawler Road, Y Marina, Abertawe, SA1 1XA.

Amdanom ni

Mae Swansea Fish yn cyfanwerthwr bwyd môr teuluol sydd wedi’i lleoli yn Abertawe. Mae’r cwmni wedi tyfu’n sylweddol oddi ar ei sefydlu gan Debora Rees (Harris ar y pryd) ym 1991, pan oedd hi’n gweithredu fel un fenyw yn unig a’i fan. Dros y 35 mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, gan dyfu o fod yn un fenyw a’i fan i 12 o weithwyr a chwe fan sy’n cyflenwi dros 400 o fusnesau ledled De Cymru gyda bwyd môr ffres ac wedi’i rhewi o bob cwr o’r byd. Mae’r busnes bellach yn gynnwys gŵr Debora, Paul, a’i feibion, Ciaran a Morgan, ac edrychwn ymlaen at ddyfodol disglair ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Mae hwn yn gyfle gwych i gyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd Môr wrth ennill cyflog. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei fentora gan ein tîm profiadol a fydd yn eich cefnogi i ddod yn gwbl fedrus a chymwys yn y diwydiant hwn. Bydd hyn yn gynnwys meysydd fel prosesu pysgod / pysgod cregyn ar gyfer cyfanwerthu a manwerthu, cyfrannu at ddiogelwch amgylcheddol mewn gweithgynhyrchu bwyd, lapio a phacio, gweithrediadau manwerthu a chynnal ansawdd. Dylai’r cwrs cymryd tua 18 mis i’w gwblhau a bydd yn cael ei ariannu’n llawn.

Bydd y swydd hefyd yn cynnwys dyletswyddau / tasgau cysylltiedig, rhesymol eraill fel y gallai fod yn ofynnol o bryd i’w gilydd.

Rhinweddau Personol Dymunol:

Rydym yn chwilio am rywun sy’n ddibynadwy ac sydd â’r awydd i ddysgu ac eisiau dod yn rhan o’r tîm.

Cymwysterau sy’n ofynnol:

Agwedd a pharodrwydd i ddysgu yw’r gofyniad pwysicaf. Mae sgiliau hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu yn rhan o’r brentisiaeth, bydd angen i chi gweithio tuag at y cymwysterau hyn os nad oes gennych TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Gofynion y Gymraeg:

Dim yn ofynnol.

Cwrs Prentisiaeth: Tystysgrif Lefel 2 ar gyfer Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd Môr.

Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Oriau: Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn, 40 awr yr wythnos.

Ceisiadau a Chyfweliad: Anfonwch eich CV gydag e-bost eglurhaol yn esbonio pam mae gennych ddiddordeb yn y brentisiaeth at swanseafish@googlemail.com, os ydych gyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad wyneb yn wyneb. 

Job CategorySwansea Fish