Prentis Pobi a Chynorthwyydd Delicatessen gyda Flynn’s Delicatessen
Flynn’s Delicatessen, 27 Heol Walter, Abertawe, SA1 5NN
Amdanom ni
Yn 2025, agorodd Chris Flynn deli bach yn Abertawe a chreodd busnes a oedd yn gwneud bwyd o ansawdd uchel yn hygyrch i bawb. Mae Flynn’s Delicatessen yn rhannu’r gorau o gynhwysion lleol a ffres i greu bwyd gwych sy’n dod â phobl at ei gilydd i greu amgylchedd sy’n estyn croeso cynnes i bawb.
Y Rôl
Mae Flynn’s Delicatessen yn chwilio am Gynorthwyydd Pobi a Deli i ymuno â’r tîm sy’n tyfu. Mae hon yn rôl lefel mynediad i rywun sydd â diddordeb mewn bwyd, pobi, lletygarwch a gweithio mewn amgylchedd deli annibynnol prysur.
Bydd y rôl yn cefnogi ein cynhyrchu pobi mewnol, gan gynnwys bara, bagels, brioche, cacennau a chynhyrchion deli eraill, wrth hefyd cefnogi dyletswyddau cownter deli a gwasanaeth cwsmeriaid yn ystod gwasanaeth.
Bydd dyletswyddau’n cynnwys paratoi cynhwysion, helpu gyda phobi dyddiol, dilyn ryseitiau a chofnodion swp, cadw’r ardaloedd pobi a’r gegin yn lân ac yn drefnus, cefnogi cylchdroi stoc, helpu i baratoi cynhyrchion ar gyfer gwasanaethu a manwerthu, gwasanaethu cwsmeriaid, cymryd archebion, cynorthwyo gyda’r cownter deli, a helpu i gynnal profiad cwsmer cynnes, croesawgar a phroffesiynol.
Amdanoch chi
Bydd hyn yn addas i rywun sy’n frwdfrydig, yn ddibynadwy, yn ymarferol ac yn awyddus i ddysgu. Nid yw profiad blaenorol o bobi, cegin neu wasanaeth cwsmeriaid yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu, ond mae’r agwedd gywir a diddordeb gwirioneddol mewn bwyd yn bwysig.
Hyfforddiant a Datblygu
Bydd y rôl hon yn cael ei chefnogi gan raglen brentisiaeth ffurfiol, sy’n darparu hyfforddiant strwythuredig ochr yn ochr â phrofiad ymarferol. Bydd cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar draws pobi, manwerthu deli, lletygarwch a gwasanaeth bwyd, ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau, symud ymlaen o fewn y busnes ac o bosib ehangu oriau wrth i’r rôl datblygu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig:
- Disgownt staff ar gael.
- Cyfle i symud ymlaen o fewn y busnes.
- Potensial i gynyddu oriau dros amser.
- Profiad ar draws pobi, deli, gwasanaeth caffi, manwerthu a digwyddiadau.
- Gweithio ar Heol Walter yn Abertawe, yn agos at ganol y ddinas ac ar lwybrau bysiau lleol.
- Parcio ar gael gerllaw.
Cymwysterau gofynnol:
Yr agwedd gywir a’r diddordeb gwirioneddol i ddysgu am fwyd yw’r cymhwyster pwysicaf.
Gofynion y Gymraeg: Dim.
Cwrs Prentisiaeth: Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Pobi
Cyflog: Cyfraddau Prentisiaethau – yn codi i £13 yr awr ar ôl y flwyddyn gyntaf
Oriau: O leiaf 16 awr yr wythnos. Dyddiau ac oriau i’w cytuno. Gan fod y rôl hon yn cefnogi ein popty, bydd rhai oriau cynnar yn rhan o’r swydd fel bod ein bara, pobi, a chynhyrchion deli yn ffres ac yn barod ar gyfer y diwrnod sydd i ddod. Mae argaeledd ar y penwythnos hefyd yn ofynnol.
Trefniadau Cyfweliadau: Bydd gofyn i chi mynychu cyfweliad wyneb yn wyneb yn Flynn’s Delicatessen.
Sut i wneud cais: Anfonwch eich CV ac e-bost byr i hello@flynnsdeli.co.uk yn esbonio pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl.
| Job Category | Flynn's Delicatessen |
