Prentisiaeth Gweithgynhyrchu – CDT Sidoli (Y Trallwng)

Diwydiant Bwyd
Y Trallwng
Posted 3 months ago

Prentisiaeth Gweithgynhyrchu – CDT Sidoli (Y Trallwng)

CDT Sidoli Ltd, Henfaes Lane, Y Trallwng, Powys, SY21 7BE

Dyletswyddau:

  • Gweithio ar y llinellau gweithgynhyrchu ar draws y gwaith gweithgynhyrchu sy’n cynhyrchu pwdinau o ansawdd uchel.
  • Dysgu tasgau a sgiliau ychwanegol ym mhob maes o’r gwaith gweithgynhyrchu. 
  • Helpu i gyflawni cynlluniau cynhyrchu dyddiol gan sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu bodloni. 
  • Gweithredu a rhedeg peiriannau yn ardal y ffwrn i gynhyrchu cymysgeddau, gan ddilyn ryseitiau a manyleb cynnyrch, a sicrhau bod yr holl brosesau cywir yn cael eu dilyn. 
  • Cydymffurfio â pholisi a gweithdrefnau ansawdd y cwmni, yn benodol gwiriadau iechyd a diogelwch.
  • Dilyn y pwyntiau rheoli critigol perthnasol yn y broses, er enghraifft blawd hidlo.
  • Deall pwysigrwydd rheoli alergenau. 
  • Gweithredu a rhedeg ffyrnau, a gallu perfformio gwaith cynnal a chadw cyffredinol (glanhau ac ati).
  • Deall sut i addasu amseroedd a thymheredd pobi yn seiliedig ar wahanol gynhyrchion a gwahaniaethau tymhorol ar gynhyrchion. 
  • Cwblhau ac addurno cacennau â llaw i fanyleb cynnyrch.

Priodoleddau personol delfrydol:   

  • Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r gallu i weithio fel rhan o dîm yn ogystal â gweithio ar eich liwt eich hunain. 
  • Rhywun sy’n hyblyg ac yn gallu gweithio ar draws ystod o wahanol feysydd cynhyrchu gan ennill sgiliau o ansawdd da trwy gydol y gweithgaredd gweithgynhyrchu. 
  • Mae sgiliau cyfathrebu da yn bwysig a’r gallu i gyfathrebu ar bob lefel, yn ogystal â bod â lefel sylfaenol dda o lythrennedd a rhifedd. 
  • Rydym yn chwilio am bobl sydd ag uchelgais ac eisiau dysgu am bob adran gweithgynhyrchu a symud ymalen yn y busnes.
  • Pobl sydd eisoes â rhai o’r sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt ac sydd am allu symud ymlaen o fewn gweithrediad gweithgynhyrchu sefydledig.

 

Cymhwyster(au) Angenrheidiol: 

TGAU Lefel C mewn Saesneg a Mathemateg.

Bydd unrhyw brofiad blaenorol o bobi neu weithgynhyrchu yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. 

 

Anghenion y Gymraeg: 

Sgiliau llafar Cymraeg: Na

Sgiliau ysgrifenedig Cymraeg: Na

 

Cwrs prentisiaeth:

Medrusrwydd mewn Gweithrediadau Bwyd a Diod Lefel 2 

Tal

Cyfraddau prentisiaethau.

Oriau:

31-40 awr yr wythnos

Trefniadau cyfweliad:

Cyfweliad dros y ffôn a chyfweliad wyneb i wyneb.

Gwneud Cais:

Bydd cyfweliad dau gam, bydd y cam cyntaf naill ai’n wyneb yn wyneb neu ar-lein. Bydd yr ail gam ar y safle ac yn cynnwys rhai agweddau ymarferol. 

I wneud cais: 

Anfonwch eich CV i – 

sianlevans@sidoli.co.uk / bdavies@sidoli.co.uk

Job CategorySidoli