Swyddog Hyfforddi mewn Lletygarwch

Lletygarwch
De Cymru
Posted 3 months ago

Oriau Gwaith: Llawn amser 37 awr yr wythnos.

Cyflog: Hyd at £27,000.00 y flwyddyn.

EIN HANES:

Ein nod yw ymgysylltu â’r holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwyr, tra’n cefnogi’r sectorau Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Chigyddiaeth ac unigolion i ffynnu trwy hyfforddiant a datblygiad. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel.

YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO:

Rydym am recriwtio Swyddog Hyfforddi medrus i ymuno â’n tîm darparu Lletygarwch sy’n tyfu yn y lledoliadau uchod.

Bydd gan y person delfrydol y gallu i addysgu a datblygu prentisiaid Lletygarwch a gyflogir yn y sector hwn. Mae hunan gymhelliant, brwdfrydedd, gwaith annibynnol a gwaith tîm yn hanfodol i’r rôl, ochr yn ochr â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.

Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr a phrentisiaid o bob oed felly mae’n rhaid i’r gallu i ysgogi unigolion a’u cefnogi i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt fod yn un o’ch priodoleddau..

Yn y pen draw, byddwch yn cael boddhad o’ch swydd drwy addysgu’ch prentisiaid a chyflawni eu cymwysterau diploma NVQ rhwng Lefelau 2 i 4.

Dylech ddisgwyl cyflwyno addysg a dysgu yn y gweithle o ddydd i ddydd, gan drosglwyddo eich gwybodaeth a’ch profiad yn ogystal â chynnal asesiadau, cynorthwyo dysgwyr i baratoi portffolio o dystiolaeth, a chynnal cofnodion cyflawniad cynnydd.

Yn yr un modd, bydd disgwyl i chi cefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd, a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo modd.

Mae cael mynediad i drafnidiaeth eich hun fel ffordd o deithio yn hanfodol i’r swydd. 

Dylech chi:

  • Bod ag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio yn y sector lletygarwch.
  • Bod â phrofiad o arwain tîm a goruchwylio eraill (delfrydol, nid hanfodol)
  • Meddu ar sgiliau rheoli amser a threfnu gwych.
  • Bod â lefel dda o sgiliau TG a’r gallu i ddysgu meddalwedd newydd.
  • Meddu ar wobr aseswr D32/D33, TAQA neu A1 neu’n barod i’w wneud.
  • Meddu ar TGAU A* – C/ 9 – 4 mewn Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster cyfwerth Lefel 2 (delfrydol, ond nid yn hanfodol).
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol.

Cyfrifoldebau allweddol:

  • Darparu addysg a dysgu effeithiol i lwyth achosion dysgwyr yn y gweithle.
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr.
  • Cynllunio a chynnal asesiadau i ddiwallu anghenion y cymhwyster, gan gynnwys wyneb yn wyneb ac ar-lein.
  • Cynnal cofnodion dysgwyr o asesu a chynnydd
  • Ymgysylltu â chyflogwyr a dysgwyr posibl i gydnabod cyfleoedd newydd.
  • Gweithio gydag adrannau eraill o fewn Hyfforddiant Cambrian i sicrhau bod gan y dysgwr y gallu i gwblhau ei raglen brentisiaeth ar amser.

Buddion allweddol:

  • Cyflog rhwng £25,000.00 – £27,000.00 y flwyddyn.
  • Gwyliau blynyddol hael a gwyliau banc.
  • Cynllun Tâl Salwch y cwmni ar ddiwedd y cyfnod prawf.
  • Cefnogaeth iechyd meddwl a lles.
  • Cyfleoedd DPP parhaus.
  • Cynllun pensiwn y cwmni.
  • Bydd gwisg staff, gliniadur a ffôn symudol yn cael eu darparu

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yna yn gyntaf anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol, gan amlinellu pam rydych eisiau’r swydd a pham rydych yn teimlo fel petaech yn ymgeisydd addas i:

Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) i’r e-bost canlynol:

stephen@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893

Bydd angen i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen datgeliad DBS ehangach ar draul y cyflogwr.

Y dyddiad cau ar gyfer y cais yw: Dydd Gwener 1 Mawrth 2024.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.

Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.

Job CategoryHyfforddiant Cambrian -ymunwch â'n tîm!