Chwech o’r goreuon a gefnogir gan Hyfforddiant Cambrian

Bydd gan Hyfforddiant Cambrian chwech o’r dysgwyr a’r cyflogwyr gorau yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru nos yfory (nos Iau) yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Anfonwn ein dymuniadau gorau at Brød (The Danish Bakery) ym Mhontcanna, Caerdydd a’u pobydd ifanc Rebekah Chatfield, Andrew Bennett o Bryson Recycling, Abergele, Lee Price o Raeadr Gwyr sy’n gweithio i Gyngor Sir Powys, Gwesty’r Harbourmaster, Aberaeron a Radnor Hills, Trefyclo – pob un wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Gallai Brød, sef popty a siop goffi Danaidd, gwblhau dwbl arbennig, gan fod y cwmni a’r pobydd Rebekah wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategorïau Cyflogwr Bach y Flwyddyn a Phrentis y Flwyddyn yn y drefn honno.

Nid yw Brød wedi edrych yn ôl ers cymryd ei brentisiaid cyntaf yn fuan wedi i’r busnes agor bedair blynedd yn ôl.

Gwnaeth prinder mewn pobyddion medrus a dymuniad i hyfforddi gweithwyr mewn technegau pobi Danaidd arbenigol gymell sylfaenydd y busnes, Betina Skovbro, i gyflwyno Prentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi a gyflwynid gan Hyfforddiant Cambrian. Mae gan y busnes sy’n tyfu dau brentis ac mae’n ail-fuddsoddi ei elw.

Mae Rebekah Chatfield wedi troi ei chariad at bobi yn y cartref yn swydd amser llawn yn Brød. Ar ôl graddio mewn bioleg môr, newidiodd Rebekah, 24 oed o Abertyleri, gyfeiriad ei gyrfa. Cwblhaodd Brentisiaeth Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi ac mae bellach yn ystyried Uwch Brentisiaeth mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd.

Mae ymroddiad cryf i Brentisiaethau wedi galluogi Gwesty’r Harbourmaster i gynnal gweithlu o 40 o aelodau staff sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel ac sy’n uchel eu cymhelliant. O wynebu prinder sgiliau yn y sector lletygarwch, mae’r gwesty, y bar a’r bwyty annibynnol yn meithrin ei staff medrus ei hun i gyflwyno gofal cwsmeriaid a phrofiad i ymwelwyr o safon uchel.

Mae Hyfforddiant Cambrian yn cyflwyno prentisiaethau o Lefelau 2 i 4 i’r gwesty, sydd ag 11 prentis ac mae’n bwriadu recriwtio mwy yn y dyfodol. Mae Gwesty’r Harbourmaster yn rownd derfynol Cyflogwr Bach y Flwyddyn.

Bu rhaid i Lee Price ddelio â marwolaeth drychinebus Rob, ei gŵr o 36 o flynyddoedd, fis yn unig ar ôl iddi ddechrau ei Huwch Brentisiaeth mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau.

Gwnaeth cefnogaeth ei chydweithwyr, Cyngor Sir Powys, Hyfforddiant Cambrian a’i theulu roi anogaeth i Lee barhau â’r cymhwyster, ac mi lwyddodd i’w cwblhau naw mis yn gynnar. Dywed yr Uwch Swyddog Ansawdd a Safonau Amgylcheddol o Raeadr Gwy y gall prentisiaethau drawsnewid gwybodaeth, gallu a sgiliau rhywun. Mae Lee yn rownd derfynol Uwch Brentis y Flwyddyn.

Cafodd cyflwyno Prentisiaethau yn y cwmni cynhyrchu dŵr ffynnon a diodydd meddal arobryn, Radnor Hills, yn 2017, effaith drawsnewidiol ar weithwyr a thwf y busnes. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 181 aelod o staff ger Trefyclo, wedi gweld twf busnes o 20 y cant yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Mae gan Radnor Hills 53 o brentisiaid ar draws y busnes gydag ystod o gymwysterau bwyd , arwain tîm ac arweinyddiaeth a rheolaeth, o Brentisiaethau Sylfaen i Uwch. Mae’r cwmni yn rownd derfynol Cyflogwr Canolig Ei Faint y Flwyddyn.

Mae Andrew Bennett yn benderfynol o beidio â gadael i ddyslecsia a cholli ei olwg mewn un llygad i sefyll yn ffordd gyrfa lwyddiannus. Mae’r ymgynghorydd ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth ac mae bellach yn mentora ei gydweithwyr.

Gwobrwywyd Andrew gyda dyrchafiad i oruchwyliwr dros dro gyda Bryson Recycling ym Mochdre ac Abergele, sydd wedi buddsoddi yn ei hyfforddiant. Mae yn rownd derfynol Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Cyd-drefnwyd y gwobrau eleni gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr yw busnes rhwydwaith digidol y DU, sef Openreach. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.