Cigyddion Cymru’n ceisio bod yn bencampwr Cigyddiaeth WorldSkills UK

Bydd tri chigydd o Gymru’n profi eu sgiliau yn Birmingham ar ddydd Mawrth wrth iddynt gynnig am le yn rownd derfynol cystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK.

Coleg Prifysgol Birmingham yw lleoliad rownd Cymru a Lloegr a fydd yn gweld pedwar cigydd dawnus ar waith – Craig Holly o Neil Powell Butchers, Y Fenni, Peter Smith o Jamie Ward Butchers, Churchstoke a Daniel Allen-Raftery o Randall Parker Foods, Llanidloes ac Ashton Lindeman o James of Shepperton Butchers, Surrey.

Allen-Raftery yw Cigydd y Flwyddyn Cymru sy’n amddiffyn ei deitl, ar ôl iddo ennill y teitl hwnnw yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt fis Tachwedd diwethaf, a Holly yw cyn Gigydd Porc Cymru’r Flwyddyn. O’r tair rownd ranbarthol neu rowndiau asesu ar draws y DU, bydd y chwe chigydd gyda’r sgorau uchaf yn cymhwyso i’r rownd derfynol a gynhelir yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15-17 Tachwedd.

Cynhaliwyd rownd Gogledd Iwerddon yn y Southern Regional College, Newry ar ddydd Mawrth a chynhelir rownd yr Alban yng Ngholeg Dinas Glasgow ar 26 Mehefin. Canolbwyntia’r gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Profir cigyddion am eu sgiliau cyffredinol, eu harloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r toriad gorau, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.

Yn rownd derfynol y DU, bydd y chwe chigydd yn cwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r sefydliad dyfarnu arbenigol FDQ, y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd. I roi cynnig, rhaid bod y cigyddion heb gwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu lefel gyfatebol.

Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael eu cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni sydd wedi profi eu bod yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach ac yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar safonau uchaf y DU ac yn rhyngwladol.

Cyflwynant fuddiannau nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr ond i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau hefyd. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’n paratoi prentisiaid
gyda’r sgiliau o’r radd flaenaf y mae eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol.

Cred dros 95% o gyn ymgeiswyr fod cymryd rhan yn y cystadlaethau wedi gwella’u sgiliau technegol a chyflogadwyedd.

Picture caption:
Daniel Allen-Raftery a Craig Holly a fydd yn cystadlu yn rownd Birmingham.