Cigyddion gorau’r byd yn cwrdd yn Sacramento cyn yr her fyd-eang

Daeth 16 o gigyddion gorau o bob cwr o’r byd i Sacramento’r wythnos diwethaf i bwyso a mesur y gystadleuaeth ar gyfer Her Cigyddion y Byd hynod ddisgwyliedig a gynhelir ym mis Medi 2020.

Daeth capteiniaid y timau, pob un yn cynrychioli un o’r 16 gwlad sy’n cystadlu yn Her Cigyddion y Byd, at ei gilydd am y Captain’s Run agoriadol, a roddodd gyfle iddynt hefyd gael profiad o brifddinas California a’r Golden 1 Center – sef maes y gad dynodedig ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Tra’r oeddent yn y dref, cymerodd Her Cigyddion y Byd dros lwyfan gŵyl enwog O’r Fferm i’r Fforc i gyflwyno’r capteniaid a datgelu tlws Cyllell Euraidd Friedr. Dick, sef y clod y bydd y timau o chwech yn cystadlu amdano mewn gornest tair awr ddwys a fydd yn eu gweld yn trawsnewid ochr o gig eidion, ochr o borc, oen cyfan a pum cyw iâr yn arddangosfa thematig o doriadau gwerth ychwanegol.

Mae’r ddinas wrth ei bodd o gynnal Her Cigyddion y Byd fis Medi nesaf a dywed Prif Weithredwr Visit Sacramento, Mike Testa y bydd y gystadleuaeth yn adeiladu ar yr ethos maen nhw wedi gweithio’n galed i’w gadarnhau.

“Mae’r digwyddiad hwn yn un o’i fath. Dyma’r digwyddiad cig mwyaf yn y bydysawd a’r digwyddiad bwyd byd-eang mwyaf sydd erioed wedi’i gynnal yn y Golden 1 Center.

“Daw’r gystadleuaeth hon â dau gariad Sacramento at ei gilydd, sef chwaraeon a bwyd. Yn ei hanfod, bydd gennym 96 athletwr elitaidd ar ben uchaf eu gêm yn dangos arloesedd a medrau gyda’n cynnyrch lleol.”

Yn yr un modd, mae Her Cigyddion y Byd yn falch i fynd yn ôl i Sacramento’r flwyddyn nesaf ar ôl yr ymweliad yr wythnos hon.

“Mae Sacramento’n ddinas hollol unigryw ac o gofio’u cariad am gynhyrchu bwyd cynaliadwy, o safon, alla i ddim meddwl am well cartref ar gyfer y gystadleuaeth yn 2020” meddai Cadeirydd Her Cigyddion y Byd, Rod Slater.

“Ar ôl gweld yr emosiwn ar wynebau’r capteiniaid wrth iddynt gerdded i mewn i’r Golden 1 Center am y tro cyntaf, nid oes amheuaeth gen i y bydd y digwyddiad hwn yn creu tonnau yn y diwydiant cig a bwyd byd-eang. Credwch chi fi, bydd Her Cigyddion y Byd 2020 yn cael ei gofio mewn hanes.”

Bydd Her Cigyddion y Byd yn digwydd ar 4 a 5 Medi 2020 yn y Golden 1 Center, Sacramento. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i worldbutcherschallenge.com

-DIWEDD-

I gael gwybodaeth gefndir am y gystadleuaeth a lluniau o’r digwyddiad cliciwch fan hyn.