Cwmni cig yn sefydlu academi hyfforddi i ddenu prentisiaid

Yr uchelgais o fod yn gwmni gorau ei sector oedd yr hwb i gwmni cigydda a phrosesu cig yng ngorllewin Cymru sefydlu academi hyfforddi fewnol i ddatblygu gweithwyr medrus.

Mae Celtica Foods o Cross Hands, sy’n rhan o gwmni cyfanwerthu bwyd annibynnol Castell Howell, wedi hyfforddi 45 o brentisiaid dros y pedair blynedd diwethaf ac mae ganddo 17 ohonynt ar hyn o bryd.

Mae’r cwmni, sydd â gweithlu o 75, yn cyflenwi cig i dafarndai a bwytai annibynnol, grwpiau lletygarwch, arlwywyr contract, ysbytai ac ysgolion.

Yn awr, mae Celtica Foods wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Bu’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn cydweithio â Celtica Foods i ddatblygu’r academi er mwyn denu rhagor o bobl ifanc i’r sector cig a chynyddu sgiliau’r gweithlu cyfan.

Mae’r rhaglenni a gynigir yn amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau’r Diwydiant Bwyd a Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd.

“Mae arnom angen sgiliau amrywiol, o dynnu’r esgyrn o garcasau, a gwneud byrgers a sosejis, i dorri cig yn fanwl er mwyn bodloni gofynion rhai o’n cwsmeriaid,” meddai Edward Morgan, rheolwr gyfarwyddwr Celtica Foods. “Mae hyfforddi a chadw staff yn bwysig.

“Er mwyn i Celtica Foods gyflawni ei amcanion, gwelsom fod angen ffordd wahanol o hyfforddi staff.”

Mae’r cwmni’n rhoi blaenoriaeth i les y staff gan gynnig sesiynau cwnsela cyfrinachol a gwasanaeth therapydd iechyd galwedigaethol i’w staff os bydd angen.

Dywedodd Chris Jones, pennaeth cynhyrchu bwyd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian:

“Mae Celtica Foods yn credu’n gryf mewn buddsoddi yn natblygiad staff ac mae’n gweld y Rhaglen Brentisiaethau fel ffordd ddelfrydol o symud ymlaen â’r busnes.”

Mae gan Celtica Foods safle torri a drwyddedir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae ganddo achrediad Gradd ‘A’ gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain ac achrediad PGI ac mae’n cyrraedd safon amgylcheddol IS01400 a safon ansawdd ISO1900.

Wrth longyfarch Celtica Foods ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”