Cwmni hyfforddi Cymreig yn hysbysebu 40 o swyddi gwag ar gyfer ceiswyr swyddi ifanc

Capsiwn y llun: Prentis pen-cogydd Edward Junaidean â chyd-berchnogion y Castle Inn a’r prif ben-cogydd Alison Richards.

Mae pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, coleg neu’r brifysgol ledled Cymru yr haf hwn yn cael eu cynghori i edrych ar amrywiaeth cyffrous o swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu gan ddarparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau.

Mae gan Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr dysgu yn y gwaith Cymru, oddeutu 40 o swyddi gwag Twf Swyddi Cymru (JGW) a phrentisiaethau ar gael ar ei wefan, â mwy’n cael eu hychwanegu’n ddyddiol.

I wneud cais am y cyfleoedd gwaith, ewch i https://www.cambriantraining.com/wp/en/jobs/ neu defnyddiwch yr hashnod cyfryngau cymdeithasol #cambrianjobsearch .

Mae Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau yn y gwaith mewn amrywiaeth o sectorau ac yn cefnogi busnesau ledled Cymru.

Gyda miloedd o bobl ifanc bellach yn ymuno â’r farchnad swyddi ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn yr ysgol, coleg neu’r brifysgol, mae’n adeg wych o’r flwyddyn i gyflogwyr ledled Cymru recriwtio staff newydd talentog.

Un unigolyn ifanc sydd wedi dod o hyd i’w swydd ddelfrydol trwy gyfle JGW yw Edward Junaidean, 19. Mae wedi datblygu i fod yn brentis sylfaen cuisine crefftus yn y Castle Inn, Trefdraeth, Sir Benfro.

“Rydw i wastad wedi bod eisiau bod yn ben-cogydd,” meddai. “Cefais gyfweliad am gwrs coleg ond penderfynais fod dysgu yn y gwaith yn fwy addas i mi, â’r fantais ychwanegol o gael eich talu.

“Mae cyfle Twf Swyddi Cymru wedi gweithio’n dda i mi oherwydd fy mod wedi symud ymlaen i brentisiaeth ac mae’r prif ben-cogydd Alison Richards yn gefnogol iawn. Mae’n lle gwych i weithio a dymunaf barhau i symud ymlaen ac ennill cymwysterau.

“Fy nghyngor i i bobl ifanc sy’n chwilio am waith yw cadw eu hopsiynau’n agored ac ystyried cyfleoedd Twf Swyddi Cymru o ddifrif.”

Dywedodd y cyn ddarlithydd coginio, Alison, cydberchennog y Castle Inn â’i gŵr, Glyn: “Mae Ed yn gweithio’n galed, yn awyddus i ddysgu pethau newydd ac yn tyfu mewn hyder ac aeddfedrwydd bob dydd yn ei rôl.

“Mae’n cael ei annog i feddwl am syniadau a rhoi cynnig ar bethau newydd oherwydd bod hynny’n rhan bwysig o’r broses ddysgu.

“Credaf fod Twf Swyddi Cymru yn ardderchog oherwydd i ni ganfod Ed trwyddo. Bellach ddymunwn gyflogi unigolyn ifanc arall ar y rhaglen a fydd hefyd yn gallu symud ymlaen i brentisiaeth a thyfu â’r busnes.”

Nod rhaglen JGW Llywodraeth Cymru, y mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn ei chefnogi, yw darparu cyfle gwerthfawr i bobl ifanc sy’n barod am waith i roi hwb i’w gyrfa.

Mae’r rhaglen hefyd yn ceisio annog busnesau sy’n tyfu ledled Cymru i greu cyfleoedd gwaith cynaliadwy ar gyfer pobl ifanc sy’n ddi-waith ac yn barod am swydd rhwng 16-24 mlwydd oed. Mae’r rhan fwyaf o aelodau JGW yn symud ymlaen i brentisiaeth ar ddiwedd eu lleoliad gwaith chwe mis.

Mae aelodau newydd yn cael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol am o leiaf 25 awr yr wythnos, ac mae’r rhaglen yn ad-dalu hanner eu costau cyflog am y chwe mis cyntaf.

I godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hyn am swyddi, mae Hyfforddiant Cambrian yn rhestru’r holl leoedd gwag ar ei wefan, yr holl sianelau cyfryngau cymdeithasol ac adran Twf Swyddi Cymru ar wefan Gyrfa Cymru.

Mae gan Hyfforddiant Cambrian swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn ac mae’n datblygu cysylltiadau cadarnhaol ag ysgolion ledled Cymru i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael iddynt o ran prentisiaethau.

Mae’r cwmni’n ceisio cynyddu ei gysylltiadau ag ysgolion eleni trwy gynnig cynnal gweithgareddau galwedigaethol a darparu cyngor am yrfaoedd, fel bod myfyrwyr a’u rhieni yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd a llwybrau dysgu sydd ar gael iddynt.

Mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n dymuno creu cyfle gwaith lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb yn https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/jobs-growth-wales-form . I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Hyfforddiant Cambrian trwy e-bost: info@cambriantraining.com neu ffôn; 01938 555893.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant, ar Ffôn: 01938 555893.