Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol newydd i gefnogi cyfle cyfartal i ddysgwyr

Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol

Yn Hyfforddiant Cambrian, credwn fod prentisiaethau ar gyfer pawb, beth bynnag fo’u cefndir, oedran, lefel neu anghenion. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad i’n prentisiaethau a darparu cymorth ychwanegol pan fo angen. Ein nod yw gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu’n barhaus. Dyma pam rydym wedi cyflogi Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol newydd, Debbie Lovatt.

Yr Wythnos Genedlaethol Brentisiaethau hon, rydym wedi bod yn siarad â Debbie am ei rôl yn Hyfforddiant Cambrian a’i thaith i fod yn Gydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:

Sut wnaethoch chi ddod i weithio yn y sector hwn?

“Rydw i wedi bod yn dysgu myfyrwyr ers 28 mlynedd. Yn ystod fy nghyfnod fel athro, lle bûm yn dysgu Saesneg a Drama, gweithiais gyda nifer o fyfyrwyr ag anghenion dysgu amrywiol, lle’r oedd angen i mi addasu a bod yn hyblyg i ddiwallu eu hanghenion unigol,” meddai Debbie.

Ychwanegodd Debbie: “Yn ddiweddarach cefais swydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn nifer o ysgolion, lle roeddwn yn gyfrifol am arwain timau o staff. Roedd rhaid i mi sicrhau bod pob myfyriwr ag anghenion dysgu neu anableddau yn derbyn lefelau addas o gefnogaeth a bod yr holl ganllawiau statudol yn cael eu dilyn yn briodol.”

Beth yw eich cefndir a pham wnaethoch chi ddewis ymuno â Chwmni Hyfforddiant Cambrian?

“Fe wnaeth y swyddi roeddwn i wedi’u dal o’r blaen fy arwain at fod yn athro ymgynghorol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) ar draws nifer o awdurdodau lleol. Yn y rôl hon roeddwn i’n cefnogi athrawon a myfyrwyr ar draws ystod eang o ysgolion a lle’r oedd gweithio mewn dull aml-asiantaeth yn rhan annatod o’m rôl.

“Mae hyn wedi rhoi sgiliau, arbenigedd a phrofiad gwerthfawr i mi a fydd yn fy ngalluogi i gefnogi’r prentisiaid yn eu dysgu a hefyd yn helpu i gynghori’r staff yn Hyfforddiant Cambrian.”

I ychwanegu at hyn, dywedodd Debbie: “Gyda’r holl newidiadau i ganllawiau ALN dros y blynyddoedd diwethaf, rwy’n teimlo fy mod mewn sefyllfa wych i allu arwain Hyfforddiant Cambrian ar gefnogi prentisiaid ag ALN ac anableddau yn well.”

A oes nifer o gamdybiaethau am ddysgwyr ag anghenion ychwanegol? Ymhlith pobl ag anghenion / anableddau ychwanegol a’r rhai hebddynt? Os felly, beth yw’r rhain?

“Oes, un o’r camdybiaethau cyffredin yw nad oes gan y dysgwyr hyn y gallu i lwyddo yn academaidd, sy’n anghywir. Gyda’r gefnogaeth a’r ddarpariaeth gywir gallent ragori yn academaidd.

“Hefyd, mae rhai pobl yn credu bod dysgwyr ag ALN angen yr un lefel neu’r un math o gefnogaeth, pan, mewn gwirionedd, mae’n ymwneud â darparu dull personol a darganfod beth yw eu cryfderau a’u heriau. Mae’n ymwneud â chydnabod amrywiaeth a chyfateb y gefnogaeth bersonol yn briodol.”

Pam mae’n bwysig i ddarparwyr addysg gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol?

“Mae cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn hanfodol am nifer o resymau. Mae’n hyrwyddo cynwysoldeb, gan sicrhau bod gan bawb fynediad at addysg, beth bynnag fo’u gallu.

“Yn ail, mae’n helpu dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn drwy ddarparu cymorth penodol wedi’i deilwra i’w hanghenion unigol. Ac yn y pen draw, mae buddsoddi mewn cefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol nid yn unig o fudd i’r unigolyn eu hunain, ond cymdeithas ar yr un pryd trwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth,” esboniodd.

A fu unrhyw ddatblygiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol dros y 25 mlynedd rydych chi wedi gweithio yn y sector?

“Bendant. Yn gyntaf, bu cynnydd mewn amddiffyniadau cyfreithiol sy’n cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau dros y 25 mlynedd diwethaf.

“Yn ail, mae gwell dealltwriaeth wedi bod o’r gwahanol anghenion dysgu ac anableddau dros y cyfnod hwn, ac mae hyn wedi lleihau’r stigma i’r unigolion hyn. Bu symudiad tuag at addysg gynhwysol lle mae dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â’u cyfoedion, sy’n hyrwyddo amrywiaeth a dealltwriaeth. Felly, mae addysgwyr yn eu tro wedi dod yn well am ddarparu a gwahaniaethu adnoddau i gwrdd â’u hanghenion. Mae technoleg gynorthwyol wedi newid yn llwyr sut y gellir cefnogi dysgwyr gan ei fod yn eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu.”

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gyflogwyr/darparwyr i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol/anableddau yn well?

“Creu diwylliant yn y gweithle sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant lle mae pob gweithiwr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cefnogi beth bynnag fo’u galluoedd. Darparu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth i reolwyr a staff ar sut i gefnogi staff ag anghenion dysgu ac anableddau.”

Dywedodd Debbie: “Gallai hyn gynnwys polisïau gwaith hyblyg sy’n caniatáu i weithwyr gael amserlen waith amrywiol neu weithio o bell, wrth gael mynediad at addasiadau a thechnoleg, a sicrhau bod y gweithle ffisegol yn hygyrch i bawb.”

“Hefyd, creu cynlluniau unigol sy’n amlinellu unrhyw anghenion a darpariaethau sydd eu hangen ar y gweithiwr i ymgymryd â’i swydd yn effeithiol a chwblhau eu cymhwyster.

“Yn olaf, hyrwyddo amgylchedd yn y gweithle lle mae cyfathrebu agored yn cael ei annog felly mae cefnogaeth yn ystyriaeth barhaus,” ychwanegodd.

Yn olaf, sut ydych chi wedi mynd ati i helpu Cwmni Hyfforddiant Cambrian i gefnogi eu dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol/Anableddau yn well?

“Byddaf yn sicrhau bod prentisiaid yn cael mynediad at ddysgu a chyfranogiad cyfartal a deg, beth bynnag fo’u hanghenion dysgu ychwanegol neu eu hanabledd. Bydd sesiynau’n cael eu cyflwyno i diwtoriaid a swyddogion hyfforddi sydd wedi’u cynllunio a’u darparu i ddiwallu anghenion unigol pob dysgwr, er mwyn llwyddo yn eu dewis gymhwyster. Hefyd ,bydd cynlluniau dysgu unigol yn cael eu creu ar gyfer dysgwyr ag ALN a byddent yn amlinellu eu hanghenion dysgu ychwanegol a’r ddarpariaeth benodol sy’n angenrheidiol.

“Bydd dull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod anghenion unigol priodol yn cael eu hymgorffori yn y cynllun. Rwy’n edrych ymlaen at helpu a chefnogi unrhyw brentis sydd angen unrhyw cymorth dysgu ychwanegol.

Rydym yn hapus iawn i gael Debbie, sydd â dros 25 mlynedd o brofiad, gan ein helpu i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau i gael mynediad at gyfleoedd cyfartal. Mae cael Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol i arwain ein darpariaeth ALN yn gam ymlaen i Gwmni Hyfforddiant Cambrian ac yn gosod y sylfaen i gefnogi ein prentisiaid ALN yn well.

Os hoffech wybod mwy am y cymorth sydd ar gael i’n dysgwyr ALN, cysylltwch â Debbie drwy debbie.lovatt@cambriantraining.com.

Am fwy o wybodaeth am yr ieithoedd prentisaidd a gynigiwn, ewch i’n tudalen Cymwysterau.