Cyflwyno’r rhai sydd wedi cyrraedd y Rownd Derfynol Gwobrau 2022!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth 2022.

Cynhelir y gwobrau arbennig hyn yn flynyddol i ddathlu cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori yn ein rhaglenni hyfforddiant prentisiaeth, sgiliau a chyflogaeth ledled Cymru.

Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr Arwyn Watkins yn hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ymgeisio a dywedodd fod y cwmni yn falch iawn gydag ansawdd y ceisiadau a gyflwynwyd eleni, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol a achoswyd gan y pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd y digwyddiad gwobrau cyffrous yn cael ei gynnal yng Ngwesty a Sba mawreddog y Metropole yn Llandrindod ar 14 Mehefin a bydd yn cynnwys pryd o fwyd dathlu 3 chwrs i bawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’u gwesteion. Cyhoeddir enillwyr pob categori gwobr a bydd cyfle am luniau proffesiynol a diodydd  

Roedd gan y tîm yno hyn i’w ddweud: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal y gwobrau yng Ngwesty a Sba’r Metropole i arddangos ymroddiad ac ymrwymiad unigolion a chwmnïau i’r rhaglen brentisiaeth yma yng Nghymru.” 

Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fel a ganlyn: 

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Hannah Ffion Lewis, 22, o gwmni In the Welsh Wind Distillery, Aberteifi a Ryan Harding, 26, o Kepak, Merthyr Tudful.

Prentis y Flwyddyn: Ben Roberts, 30, M. E. Evans, Owrtyn-ar-Coed, Despoina Tsolakaki, 27, o’r Danish Bakery, Caerdydd a Kayla Millon o Whitbread – Premier Inn, Caerffili.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Nerys Margret Smithwick, 35, o’r Celtic Collection, Casnewydd a Jessica Kelly, 26 o Stena Line.

Unigolyn rhagorol: Fionntan Curran, 25, o Forte School of Music (Caerdydd)  Harley Bayliss, 21, Gwesty’r Metropole, Llandrindod a Kane Deacon-Roberts, 25, o N S James Limited.

Micro Gyflogwr y Flwyddyn: Freedom Saddlery a Fferm Whitegate, Yr Hob, Wrecsam a Chwmni Bwyd Môr Menai, Porth Penrhyn, Bangor.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Castle Inn Pembrokeshire Limited, Trefdraeth ac In the Welsh Wind Distillery, Tanygroes, Aberteifi.

Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Thorncliffe Building Supplies, Dyserth a Celtica Foods, Cross Hands, Llanelli. 

Cyflogwr Mawr a Macro’r Flwyddyn: Celtic Collection Casnewydd ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Llongyfarchiadau i bob un o’n cystadleuwyr yn y rownd derfynol ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar Fehefin 14eg.

Hoffai pawb yma yng Nghwmni Hyfforddiant Cambren ddiolch i bob un ohonoch a ymgeisiodd am eu gwaith caled ac am gefnogi a dathlu prentisiaethau yng Nghymru. 

Rydym eisoes yn gyffrous i weld eich ceisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf!

I ddarganfod beth all prentisiaethau ei wneud i chi neu eich busnes, e-bostiwch ni heddiw at info@cambriantraining.com neu ffoniwch ni ar 01938 555893.