Cyhoeddwyd pwy sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobrau blynyddol cwmni hyfforddi ledled Cymru

Cyhoeddwyd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol a drefnir gan un o brif gwmnïau hyfforddi Cymru.

Gan gydnabod cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant cyflogaeth a gyflwynwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, roedd disgwyl i’r gwobrau gael eu cynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar Orffennaf 28.

Fodd bynnag, oherwydd achosion cynyddol o Covid-19, mae’r cwmni wedi penderfynu gohirio’r digwyddiad am nawr.

Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw: Unigolyn Eithriadol y Flwyddyn: Joseph Hembrough, gwerthwr pysgod / rheolwr yn The Menai Seafood Company, Port Penrhyn, Bangor a Chloe Jade Varney, cynorthwyydd cegin yng Nghartref Gofal Tan Yr Allt, Pontardawe ar gyfer Fieldbay.

Prentis Sylfaenol y Flwyddyn: Michael Mcquillan, goruchwyliwr gwastraff ac ailgylchu yn Depo Thornton, ger Aberdaugleddau ar gyfer Cyngor Sir Benfro ac Alastair Robert Jones, cogydd gyda Compass Group (ESS) yn RRC Crickhowell.

Prentis y Flwyddyn: Ciri-Ann John, fideograffydd gyda North Wales Media, Y Fflint, Stuart Wooles, rheolwr arlwyo gyda Compass Group (ESS) yn RRC Crickhowell a Graham Martin Jones, gweithredwr gwastraff ac ailgylchu yn Radyr gyda Chyngor Sir Powys .

Prentis Uwch y Flwyddyn: Sara-Mai Reyes Escoto, rheolwr marchnata gyda North Wales Media, y Fflint a John Franks, rheolwr tîm yn Bryson Recycling, Mochdre, Conwy.

Cyflogwr y Flwyddyn: Cyfryngau Gogledd Cymru, Cartref Gofal Claremont Court, Malpas, Casnewydd, Warner Leisure, Gwesty Castell Bodelwyddan, ger y Rhyl, Kepak St Merryn Merthyr, Merthyr Tudful, Compass Group ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth – Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Bydd enillwyr pob categori yn cael cyfle i gael eu cynnig ar gyfer Gwobrau Prentisiaeth Cymru, a drefnir ar y cyd gan Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Gyda swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn, Llanelli a Llanelwedd, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau yn y gwaith ledled Cymru.

Dywedodd Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, fod y cwmni wrth ei fodd gyda nifer y ceisiadau a gyflwynwyd eleni er gwaethaf yr amgylchiadau heriol dros y 18 mis diwethaf.

“Roedd ansawdd y ceisiadau mor uchel nes ei bod yn anodd dewis y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol,” ychwanegodd. “Rydym yn siomedig ein bod wedi gorfod gohirio’r digwyddiad ond yn teimlo mai hwn yw’r peth gorau a mwyaf diogel i’w wneud ar yr adeg hon.

“Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y gwobrau nes ymlaen i gydnabod ymroddiad ac ymrwymiad unigolion a chwmnïau i’r rhaglen brentisiaeth yma yng Nghymru.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cysylltwch â’n tîm ynglŷn â dod yn brentis neu logi prentisiaid – info@cambriantraining.com