Cymdeithas y pen-cogyddion yn cymryd cigyddion crefftus Cymru o dan ei hadain

Capsiwn y llun: Arwyn Watkins, OBE, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru.

Mae Cymdeithas Goginio Cymru (CAW) yn lledu ei hadenydd i gynnwys cigyddion crefftus fel aelodau.

Pleidleisiodd yr aelodau yn y cyfarfod cyffredinol a gynhelir bob yn ail flwyddyn yn y Trallwng i groesawu’r adran newydd yn dilyn cynnig gan y Llywydd Arwyn Watkins, OBE.

Dywedodd Mr Watkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, fod tîm Crefft Cigyddiaeth Cymru wedi cael ei ffurfio i gystadlu yn Her Cigydd y Byd yn Sacramento, Califfornia ym mis Medi 2020.

Nid oedd gan y tîm gartref naturiol yng Nghymru ac roedd yn credu y byddai croesawu cigyddion crefftus fel un o adrannau CAW yn fuddiol i bawb, oherwydd y gallai Tîm Coginio Cymru drosglwyddo profiad a gwybodaeth werthfawr o gystadlu mewn cystadlaethau byd-eang.

“Mae dod â chigyddion crefftus yn agosach at ben-cogyddion crefftus yn gam da, oherwydd y bydd digon o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar draws cyfleoedd,” ychwanegodd. “Bydd y rhwydweithiau rhyngwladol y mae Tîm Coginio Cymru wedi’u sefydlu wrth gystadlu ledled y byd hefyd yn ddefnyddiol iawn i’r cigyddion a’u noddwyr.”

Dywedodd fod y mecanwaith cefnogi ar gyfer y cigyddion eisoes yn bodoli trwy Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n trefnu cystadlaethau Cigydd y Flwyddyn Cymru a Chigyddiaeth WorldSkills UK.

Dywedodd Mr Watkins hefyd y byddai tîm gwasanaethau bwyty o Gymru yn cystadlu am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth flaen y tŷ yng Ngemau Olympaidd y Gegin yn Stuttgart ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Pleidleisiodd yr Aelodau i dderbyn y tîm o dan faner CAW os penodir rheolwr.

Mae Tîm Coginio Cymru wedi cofrestru timau hŷn ac iau ar gyfer y Gemau Olympaidd coginio.

Cafodd ffioedd aelodaeth CAW eu rhewi am flwyddyn arall, sef £15 ar gyfer aelodau iau, £35 ar gyfer oedolion a £150 ar gyfer grwpiau o 10 aelod.

Yn ei adroddiad llywydd, dywedodd Mr Watkins fod llawer o’r targedau a osodwyd yn y cyfarfod cyffredinol bob dwy flynedd diwethaf wedi’u cyflawni, gan gynnwys codi proffil CAW a Thîm Coginio Cymru.

Derbyniodd Fedal y Llywydd yng Nghyngres y Worldchefs ym Malaysia i gydnabod effaith gadarnhaol Cymru ar Worldchefs. Cafodd Danny Burke, o Olive Tree Catering, Runcorn, sy’n hyfforddwr Tîm Coginio Iau Cymru, ei longyfarch ar gyrraedd Rownd Derfynol Pen-Cogydd Byd-Eang Worldchefs Rwsia 2020 ar ôl ennill ei ragbrawf yn yr Eidal.

“Fel cymdeithas, rydym wedi creu cyfleoedd sylweddol i broffilio bwyd a diod o Gymru mewn sioeau masnach, digwyddiadau’r diwydiant a digwyddiadau VIP, fel digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi yn 10, Downing Street, digwyddiad gourmet Celtaidd ym Mrwsel a Gwobrau Prentisiaethau Cymru,” ychwanegodd.

“Mae’r adborth a gafwyd gan gleientiaid wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac, fel llywydd, rwy’n falch iawn o broffesiynoldeb ac etheg waith bwrpasol ein pen-cogyddion a ddewiswyd i gyflawni’r swyddogaethau hyn.”

Adroddodd fod Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi cytuno i fod yn noddwr CAW am bum mlynedd arall, i’w adolygu yn 2023.

Apeliodd ar i fwy o aelodau wneud cais i gymhwyso fel beirniaid Worldchefs. Mae’n dymuno i Gymru gynyddu nifer ei beirniaid A o ddau i dri a’i beirniaid B o un i dri, er budd Tîm Coginio Cymru.

Bydd y newid yn y dyddiad ar gyfer Gemau Olympaidd y Gegin yn Stuttgart – Chwefror 14-19, 2020 – yn effeithio ar Bencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, a fydd yn symud i hanner tymor yr Hydref y flwyddyn nesaf yng Ngholeg Llandrillo Menai. Mae cystadlaethau Iau a Chenedlaethol Pen-Cogyddion Cymru yn cael eu hadolygu, â’r posibilrwydd o gynnal digwyddiad ar wahân.

“Yn gyffredinol, mae cyfnod y swydd hon wedi bod yn wych ac mae llawer wedi’i gyflawni, ond mae llawer mwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod hon yn gymdeithas aelodaeth gynaliadwy sy’n cynnal aelodaeth Worldchefs, yn cefnogi ei phen-cogyddion a’i chigyddion crefftus mewn cystadlaethau ac yn sicrhau cynllun olyniaeth ar gyfer ei bwrdd cyfarwyddwyr presennol,” ychwanegodd Mr Watkins.

Cafodd ef, Toby Beevers, o PSL Purchasings Systems, a Colin Gray o Capital Cuisine, Caerffili, eu hailethol fel llywydd, trysorydd ac is-lywydd yn y drefn honno.

Etholwyd Mr Burke yn hyfforddwr Tîm Coginio Iau Cymru, â Mike Evans, Coleg Llandrillo Menai, yn rheolwr. Ail-etholwyd Nick Davies, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, fel rheolwr Tîm Coginio Cymru, Alun Davies, RAF Winchester, fel capten Tîm Coginio Cymru, Gareth Johns, Gwesty Wynnstay, Machynlleth, yn Llysgennad Cogyddion Heb Ffiniau, Michael Bates, Gwesty’r Celtic Manor, Casnewydd, fel arweinydd digwyddiadau allanol a Chris Bason, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, fel arweinydd addysg a sgiliau

Mae CAW yn dal i geisio enwebiadau ar gyfer ysgrifennydd Cenedlaethol a chadeirydd y Pwyllgor Coginio Cenedlaethol. Dylid anfon enwebiadau at Vicky Watkins yn CAW ar office@welshculinaryassociation.com .

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Arwyn Watkins, OBE, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd, ar Ffôn: 01686 650818.