Cymryd prentis yn helpu busnes teuluol i ddyblu ei drosiant

Mae busnes teuluol bach o’r gogledd, Lelo Skip Hire, sydd wedi dyblu ei drosiant ers iddo recriwtio’i brentis cyntaf bedair blynedd yn ôl, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys.

I ddechrau, cymerodd Oswyn Jones, sy’n rhedeg y cwmni o Gorwen, ei fab 16 oed Daniel i weithio i’r cwmni ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru yn 2014.

Ers hynny, mae Daniel wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy i wneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau gyda chymorth Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y darparwr dysgu o’r Trallwng.

Wrth i wybodaeth a sgiliau Daniel gynyddu, mae cwsmeriaid y cwmni wedi cynyddu hefyd. Gwelwyd cynnydd o 195% yn y trosiant o ganlyniad uniongyrchol i’w wybodaeth am dechnolegau trin, rheoliadau dyletswydd gofal a pholisïau amgylcheddol ac mae hynny’n golygu bod yn cwmni’n gallu gwneud mwy o waith.

Yn awr, mae Lelo Skip Hire wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Dau weithiwr sydd gan Lelo Skip Hire ac mae’n cynnig gwasanaeth llogi sgipiau gan eu danfon a’u casglu ledled gogledd-ddwyrain Cymru. Mae ganddo gynlluniau i agor safle trwyddedig i ailgylchu’r gwastraff a gesglir gan y cwmni.

“Trwy gael ein safle ni’n hunain, byddem yn ganolfan ailgylchu gyflawn a dyna yw ein nod yn y pen draw.” meddai Oswyn. “Roedd ein mab yn awyddus i ymuno â busnes y teulu erioed ac roedden ninnau’n dymuno iddo barhau i ddysgu a defnyddio’r hyn yr oedd yn ei ddysgu i helpu’r busnes i dyfu.

“Gwelsom fod y Rhaglen Brentisiaethau’n ffordd ddelfrydol o hyfforddi Daniel a datblygu’r busnes. Pan fyddwn mewn sefyllfa i agor ein safle ailgylchu a chyflogi rhagor o staff, byddwn yn cynnwys Prentisiaethau yn y rhan newydd o’r busnes hefyd.”

Roedd Oswyn yn llawn canmoliaeth i bartneriaeth “ffantastig” y busnes gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Enwyd Lelo Skip Hire yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol y darparwr dysgu yn gynharach eleni.

Dywedodd Heather Martin, pennaeth uned fusnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian:

“Mae Lelo Skip Hire yn dangos y pethau rhyfeddol y gellir eu cyflawni â dim ond un prentis.”

Wrth longyfarch Lelo Skip Hire ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”