Cyrhaeddwyr Rownd Derfynol y Gwobrau yn Dangos Beth Gall Prentisiaethau ei Wneud

Rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chwmni bwyd Cymreig Kepak ers dros 18 mis bellach, gan gyflwyno ein rhaglenni prentisiaeth seiliedig ar waith arobryn. Mae cyflwyno prentisiaethau yn natblygiad proffesiynol staff Kepak wedi creu gweithlu hynod fedrus ac uchel ei gymhelliant ac yn ei dro wedi gostwng trosiant staff yn ddramatig. Yn ogystal mae Kepak wedi cyrraedd y rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni!

Mae Grŵp Kepak Cyf yn buddsoddi yn ei dalent a’i gyfleusterau ei hun fel rhan o strategaeth dysgu a datblygu o’r newydd, gyda glasbrint ar gyfer datblygu sgiliau, prentisiaethau, cynllunio olyniaeth a datblygu rheoli.

“Buan iawn y daeth y broses hon yn fframwaith a aeth â gweithwyr di-grefft i weithwyr lled-fedrus mewn dim ond tri mis,” meddai Jeremy Jones, Rheolwr Gweithrediadau AD y DU.

“O’r fan hon maen nhw’n symud ymlaen i brentisiaeth gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae’r rhaglen yn cysylltu’n uniongyrchol â’n matrics hyfforddi ym mhob adran ac mae angen o leiaf 17 o dasgau gan bob prentis i ddod yn gwbl fedrus.”

Erbyn hyn mae Kepak wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Cyflogwr Mawr a Macro’r Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau mawreddog Cymru 2022. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithiol ar 10 Tachwedd.

Cliciwch yma i weld y digwyddiad llawn.

Mae’r gwobrau’n amlygu llwyddiannau eithriadol cyflogwyr, prentisiaid a darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac fe’u trefnir gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Mabwysiadodd Kepak y dull hyfforddi seiliedig ar waith newydd hwn 18 mis yn ôl, ond mae’r cwmni eisoes wedi elwa o ostyngiad o 15% mewn trosiant staff ac mae prentisiaid cenhedlaeth gyntaf eisoes yn symud ymlaen i rolau uwch.

Mae deugain o weithwyr bellach yn dilyn prentisiaethau sy’n cynnwys Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod (Lefelau 2 a 3), Sgiliau’r Diwydiant Bwyd (Lefelau 2 a 3), Arwain Tîm Bwyd (Lefel 2), Rheoli Bwyd (Lefel 3), Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Lefel 3 a 4), a Rheoli (Lefel 4 a 5). Gyda phob cwrs yn cael ei gyflwyno gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae’r prentisiaethau wedi arwain at gynnydd mewn perfformiad ac elw mewn adrannau penodol ac mae hyfforddwyr i ffwrdd o’r gwaith yn goruchwylio eu datblygiad trwy greu cynlluniau dysgu unigol mewn cydweithrediad â’u darparwr hyfforddiant.

Gyda dros 800 o weithwyr ar ei lyfrau, mae gan y cwmni gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y prentisiaid i tua 100 ar unrhyw un adeg. Bydd hyn yn cynnwys staff newydd, staff presennol sy’n ymgymryd â rolau newydd a phrentisiaid yn symud ymlaen i lefel nesaf y brentisiaeth.

Mae’r strategaeth wedi’i datblygu gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian a dywedodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes y cwmni ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd: “Yn syml iawn, mae Kepak wedi ymrwymo 100% i’r rhaglen brentisiaeth ac i’w staff.

“Maen nhw’n buddsoddi yn eu staff a’r gymuned leol i adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol a dylid eu defnyddio fel glasbrint o sut i fynd at hyfforddiant prentisiaeth i gynnal gweithlu am oes.”

Wrth longyfarch Grŵp Kepak a phawb arall sydd ar y rhestr fer, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gethin: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi a bydd yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i adlamu’n ôl o’r pandemig.

“Gallant helpu i ddiogelu, ysgogi ac amrywio gweithlu at y dyfodol, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel.”

“Fel rhan o’n Gwarant Pobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth bresennol.”

“Rydym eisiau cynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella eu bywydau. Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sectorau â blaenoriaeth, sy’n hanfodol i ysgogi cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol bob dydd a gwasanaethau cyhoeddus.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Kepak i dyfu eich busnes gyda phrentisiaethau, cysylltwch â ni heddiw am gyngor wedi’i deilwra.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd