Enwi Marc fel cyflawnydd eithriadol yn seremoni wobrwyo genedlaethol

Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru wedi agor y drws i yrfa ddelfrydol yn gweithio gyda cheffylau i Marc Pugh sydd wedi casglu gwobr genedlaethol fawreddog am ei lwyddiant dysgu.

Enillodd Marc, 20, o Lanfaredd, ger Llanfair-ym-Muallt, y Wobr Cyflawnydd Eithriadol yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru eleni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Venue Cymru, Llandudno, a llwyddodd i ddwyn ynghyd y goreuon ymhlith dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ar draws Cymru, sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru a rhaglenni Prentisiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cyrhaeddodd tri-deg-tri o sêr sy’n ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sy’n ymwneud â darparu amrywiaeth o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru y rhestr fer ar gyfer gwobrau mawreddog, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Pearson CCC yn noddi’r gwobrau ac mae’r partner cyfryngau Media Wales yn eu cefnogi.

Mae Marc wedi helpu i ehangu’r busnes ers ymuno â thîm y cyfarwyddwr Nicky van Dijk yn Happy Horse Retirement Home yng Nghrai, ger Aberhonddu lle mae wedi cael dyrchafiad i reolwr cynorthwyol yr iard.

Mae ganddo gymaint o ymrwymiad i’r cwmni, sy’n darparu hafan i berchnogion ymddeol eu hannwyl geffylau, y gwnaeth daith ddwyffordd 72 milltir ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan i fonitro a nyrsio ceffylau sâl.

Recriwtiodd y cwmni Marc i ddatblygu’r busnes, sydd wedi tyfu 20 y cant mewn tair blynedd. Bu’n berchen ar geffylau ers yn bump oed, cyflawnodd Ddiploma estynedig mewn Rheolaeth Ceffylau gyda rhagoriaeth ar gampws Walford Coleg Gogledd Swydd Amwythig cyn cychwyn ei yrfa.

Ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Reidio a Gofal Ceffylau a Chymhwyster Reidio a Diogelwch Ffordd Cymdeithas Ceffylau Prydain, cafodd Marc ei gadw a’i ddyrchafu pan ddaeth ei raglen Twf Swyddi Cymru i ben.

Mae wedi symud ymlaen i Brentisiaeth mewn Reidio a Gofal Ceffylau trwy Raglen Recriwtiaid Newydd Llywodraeth Cymru, wedi cyflawni cymhwyster cam tri Cymdeithas Ceffylau Prydain ac yn ceisio dod yn hyfforddwr reidio cymwys. Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw ei ddarparwr dysgu.

“Roedd cael fy nghynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol yn gyflawniad mawr a doeddwn i ddim yn disgwyl ennill,” meddai Marc, sydd ag enw da am aros yn ddigyffro mewn argyfwng. Rwyf wedi cyflawni nodau nid oeddwn yn meddwl y gallwn eu cyflawni erioed ac wedi profi i mi fy hun a’m rhieni fy mod yn canolbwyntio ar fy nyfodol.

“Buaswn yn argymell rhaglen Twf Swyddi Cymru i bawb. Ar ôl gadael y coleg, es i allan a dod o hyd i swydd ac yn ffodus roeddwn eisoes yn adnabod Nicky van Dijk. Dydw i heb edrych yn ôl ers hynny. Bellach rwy’n gobeithio cyflawni cymhwyster cam pedwar Cymdeithas Ceffylau Prydain a bydd hynny’n agor mwy o ddrysau i mi.”

Llongyfarchodd Gweinidog Cymru dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, Marc a’r enillwyr eraill a’r rheiny sydd wedi cyrraedd rhestr fer y rownd derfynol. “Rydym yn falch i fod yn darparu nifer o raglenni hyfforddiant galwedigaethol llwyddiannus yng Nghymru â chyfraddau llwyddiant ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru’n aros ymhell yn uwch nag 80 y cant”, meddai hi.

“Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi. Mae gennym ddysgwyr gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn darparu llwyfan perffaith i ni ddathlu eu cyflawniadau a’u gwaith caled. Mae’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant yr un mor bwysig, gan fynd cam yn ychwanegol i gefnogi eu dysgwyr.”

I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr marchnata a chyfathrebu NTfW, ar Ffôn: 02920 495861.

Capsiynau’r lluniau:
Marc Pugh gyda’i wobr.