Penodi Faith yn Brif Swyddog Gweithredu Hyfforddiant Cambrian

Mae dynes sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth yn y sector dysgu yn y gwaith ar draws y DU wedi’i phenodi yn Brif Swyddog Gweithredu un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru.

Daw Faith O’Brien o rôl ymgynghorol i swydd newydd yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, sydd â swyddfeydd rhanbarthol yn Llanelli, Caergybi, Bae Colwyn a Llanfair ym Muallt.

Mae’r cwmni sydd wedi ennill sawl gwobr yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau yn y gwaith, Twf Swyddi Cymru a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ar draws Cymru gyfan. Mae ei busnes craidd yn y diwydiannau bwyd a diod ac arlwyo a lletygarwch.

Ar ôl graddio â gradd mewn biocemeg feddygol, mae Faith wedi treulio ei gyrfa yn gweithio â llywodraethau perthnasol ledled y DU yn rheoli contractau cyflogadwyedd a dysgu yn y gwaith.

Wrth siarad am ei rôl ran-amser newydd, dywedodd: “Rwy’n llawn cyffro ac yn falch i fod yn gweithio i Gwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae ganddo ethos a diwylliant gwych, yn rhoi staff, dysgwyr a chyflogwyr ar flaen y gad wrth gyflenwi.

“Byddaf yn gweithio ar lefel rheoli uwch yn cefnogi cynllunio busnes, gweithredu strategaeth a pherfformiad cyffredinol.”

Meddai Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Rydym yn falch iawn i fod wedi sicrhau arbenigedd, gwybodaeth a gallu technegol Faith.

Mae hi’n adnabyddus ac yn uchel ei pharch yn broffesiynol ledled y sector dysgu yn y gwaith ac yn ased enfawr.

“Bwriad penodiad Faith yw gwella’r busnes, gan ei gwneud yn fwy cynaliadwy a datblygu cysylltiadau partneriaeth cryfach.”