Galw am gefnogaeth i rowndiau terfynol lletygarwch

Craig Holly Welsh Butcher of the Year

Hyb Lletygarwch Tri Diwrnod

Bydd y digwyddiad sy’n cynnwys cystadlaethau coginio mawreddog ar gyfer diwydiant a phrentisiaid yn ogystal ag arddangosfa Bwyd a Diod Cymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i fasnach, prentisiaid, myfyrwyr a’r cyhoedd.

Mae Arwyn Watkins OBE, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, yn credu bod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ychwanegiad gwych. “Bydd cael rowndiau terfynol cystadleuaeth sgiliau Cymru ym Mhencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru yn gwella’r profiad cyffredinol ac yn galluogi mwy o amlygiad i’r holl gystadleuwyr a noddwyr.”

Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn Hyrwyddo Dysgu Seiliedig ar Sgiliau

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn codi ymwybyddiaeth o addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a llwybrau gyrfa ar draws ystod o sectorau blaenoriaeth a fydd yn effeithio’n gadarnhaol ar fusnesau yng Nghymru. Mae’r rowndiau terfynol Lletygarwch, a drefnir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian ar ran Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn cynnwys tair cystadleuaeth sef Sgiliau Celfyddydau Coginio, Patisserie a Melysion a Bwyty. Gynhelir yn yr ICC Cymru, yn ogystal â Sgiliau Bwytai Cynhwysol sy’n cael eu cynnal ar y 29ain o Ionawr yng Ngholeg Elidyr.

Crëwyd pob un o’r cystadlaethau i brofi sgiliau’r prentisiaid y maent wedi’u datblygu trwy eu haddysg yn y coleg neu yn y gweithle. Er mwyn llwyddo, rhaid i brentisiaid ddangos eu sgiliau gorau wrth berfformio dan bwysau ac yn erbyn y cloc. Bydd enillwyr pob cystadleuaeth yn ennill yr hawl i gystadlu yn rowndiau terfynol UK World Skills yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Am y tro cyntaf bydd prentisiaid coginio a lletygarwch yn perfformio ochr yn ochr â’u cyfoedion yn y diwydiant yn yr Hyb Lletygarwch tri diwrnod. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle cyffrous i’n prentisiaid ddisgleirio a rhoi’r cyfle iddynt lwyddo yn eu gyrfaoedd.”

Pencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru (WICC)

Mae’r WICC yn denu gweithwyr proffesiynol blaenllaw’r wlad i gystadlu am y teitlau mawreddog: Cogydd Cenedlaethol Cymru, Cogydd Iau Cymru, a Chigydd Cymreig y Flwyddyn. Eleni bydd enillwyr Cogydd Cenedlaethol Cymru 2024 a Chogydd Iau Cymru 2024 yn ennill yr hawl i fynychu Cyngres ac Arddangosfa Cogyddion y Byd 2026. Gynhelir rhain yng Nghymru am y tro cyntaf ochr yn ochr â rownd derfynol Cogydd Byd-eang 2026 ym mis Mai 2026 yn yr ICC Cymru.

Mae Craig Holly,Swyddog Hyfforddi yn Hyfforddiant Cambrian, yn gyn-enillydd Cigydd Cymreig y Flwyddyn. Dywedodd hyn am y brofiad: “Roeddwn yn falch o gystadlu ac ennill Cigydd Cymreig y Flwyddyn yn 2018. Braint go iawn oedd cael mynd i gynrychioli Cymru yn fy nghrefft ar lwyfan y byd yng Nghaliffornia. Mae fy nghyflawniadau yn sicr wedi fy helpu i sefyll allan ymysg fy nghyfoedion ac wedi rhoi datblygiad gwych i mi yn fy llwybr gyrfa. Dyna pam rydw i’n mynd i weithio gyda Chigyddion Crafft Tîm Cymru nesaf sy’n cystadlu yn Her Cigyddiaeth y Byd 2025 ym Mharis.

“Mae’r cystadlaethau yn bwysig gan ei fod yn cynhyrchu arloesedd ac yn galluogi cigyddion i ddangos ochr fwy creadigol eu crefft tra’n cadw’r grefft draddodiadol yn fyw. Rwy’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan.”

Eleni, mae Cymdeithas Goginio Cymru hefyd yn lansio eu cystadleuaeth Cogydd Gwyrdd cyntaf i hyrwyddo’r ystod eang o ddewisiadau prydau bwyd i lysieuwyr. Bydd hefyd yn gyfle i’r Gymdeithas weld talent Cymru wrth iddynt chwilio am gogydd o Gymru i gystadlu yn Rownd Derfynol Cogydd Fegan fel rhan o Rowndiau Terfynol Cogyddion Byd-eang 2026. Mae yna hefyd Her Riso Gallo Risotto, gydag enillydd yr her yn symud ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Cogydd Risotto Iau y Flwyddyn y DU ac Iwerddon.

Yn ogystal â’r cystadlaethau mawreddog hyn, bydd nifer o gystadlaethau sgiliau unigol hefyd gan gynnwys Sgiliau Cyllyll – Toriadau Ffrwythau a Thoriadau Llysiau; Her Salad Cesar; Pwdinau Oer Modern; Mixology Coctels; Sgiliau Cigyddiaeth; Omelets; Prif Bryd Bwyd Cig Eidion Cymru; Prif Bryd Bwyd Cig Oen Cymru; Dosbarth Helgig, a Pharatoi a Choginio Cyw Iâr ar gyfer Sauté y bydd gweithwyr proffesiynol a phrentisiaid yn cael cyfle i gymryd rhan ynddo.

Meddai Arwyn Watkins: “Mae dod â’r holl gystadlaethau hyn at ei gilydd i leoliad newydd sbon yr ICC Cymru yng Nghasnewydd yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes 30 mlynedd y Gymdeithas Goginio. Byddwn yn creu Hyb Lletygarwch tri diwrnod sy’n agored i fasnach a’r cyhoedd, gan roi cyfleoedd i’n partneriaid busnes arddangos eu cynnyrch, chwilio am ddoniau’r dyfodol ac adeiladu ein perthnasoedd busnes wrth i ni barhau ar y daith i gynnal Cyngres ac Arddangosfa Cogydd y Byd yn 2026.”

Bydd yr tri diwrnod yn dod i ben gyda Chinio Gwobrau’r Diwydiant ar ddydd Mercher 24 Ionawr lle cyhoeddir yr holl enillwyr. Bydd byrddau o ddeg yn costio £1,000 gyda’r holl elw’n mynd i Gymdeithas Goginio Cymru i gefnogi’r gwaith o ddarparu hyfforddiant a datblygu ein timau Cigyddion Cenedlaethol, Iau a Chrefft i gystadlu a chynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Os hoffech ddangos eich cefnogaeth ac ymuno â ni i ddathlu sgiliau a Bwyd a Diod ardderchog Cymru, cysylltwch â ni trwy: office@culinaryassociation.wales.