Dechreuodd prentis lletygarwch Hyfforddiant Cambrian, Aaron Jones, Goruchwyliwr Sifft ym Mhenycae Inn, Wythnos Prentisiaethau Cymru gyda chyfweliad ar Sioe Frecwast BBC Radio Cymru ar fore Llun. Yn ddiweddar, cwblhaodd Aaron ei brentisiaeth Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 3, a rhannodd ei brofiadau personol a’i daith brentisiaeth gyda thua 62,000 o wrandawyr.
Nos Llun, cynhaliodd Hyfforddiant Cambrian ein gweminar gyntaf erioed i hyrwyddo prentisiaethau yn y sector Lletygarwch. Roedd y gweminar yn cynnwys Llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru, Arwyn Watkins OBE, Rheolwr Adnoddau Dynol yn voco St.David’s Caerdydd, Lauren Bailey, a Derbynnydd Sba’r gwesty, Kanchan McKenzie, sy’n cwblhau ei Phrentisiaeth lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid a Phennaeth Lletygarwch Hyfforddiant Cambrian, Chris Bason.
Dydd Mawrth, roedd Swyddogion Hyfforddiant Cambrian, Jobe Davies a Scott Morgan, yn Nigwyddiad Prentisiaethau ac Addysg Genedlaethol yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd fel rhan o stondin Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith ochr yn ochr ag ACT, Educ8 ac ITEC. Fe wnaeth Jobe a Scott cwrdd â llawer o blant ysgol De Cymru i rannu gwybodaeth am fanteision prentisiaethau a dangos sut i wneud moctels, un o’r sgiliau blaen y tŷ y mae prentisiaid Lletygarwch yn eu dysgu ar raglen brentisiaeth.
Nos Fawrth, cynhaliodd Hyfforddiant Cambrian ein hail weminar i hyrwyddo prentisiaethau yn y sector Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod. Roedd y gweminar yn cynnwys Nia Griffith, Rheolwr Ymgysylltu yn Mentera, Rheolwr Adnoddau Dynol yn Hilltop, Kate Preston, ac Wyn Griffiths, gweithiwr Sicrhau Ansawdd Cyflenwyr y cwmni sy’n cwblhau Diploma FDQ lefel 3 ar gyfer Hyfedredd mewn Rheoli Technegol y Diwydiant Bwyd a Swyddog Datblygu Busnes Hyfforddiant Cambrian, Carys Evans.
Hoffai Cwmni Hyfforddiant Cambrian diolch i’n holl gyfranogwyr am eu hamser ac am rannu eu mewnwelediadau a’u profiadau uniongyrchol naill ai fel cyflogwyr, neu brentisiaid yn eu sectorau. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ymfalchïo mewn darparu prentisiaethau ledled Cymru sy’n cwmpasu sectorau o’r fferm i’r fforc sy’n cefnogi economi Cymru, ei diwylliant, cymunedau gweledig a threfol. Mae Hyfforddiant Cambrian yn bwriadu cynnal rhagor o weminarau yn 2026 i roi gwybodaeth i bobl sy’n gadael yr ysgol, sy’n newid gyrfa a phobl ifanc am brentisiaethau yn y sectorau y mae Hyfforddiant Cambrian yn gweithio ynddynt.
Dydd Mercher roedd prentisiaid Hyfforddiant Cambrian, Aaron Jones ac Oliver Addis-Fuller, Rheolwr Dyletswyddau yng Ngwesty Glyn Clydach sy’n astudio ar gyfer ei brentisiaeth Goruchwylio ac Arwain Lefel 3, ar stondin Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Ffair Prentisiaethau yn y Senedd. Fe wnaethant arddangos gwneud moctels gyda jin heb alcohol Cygnet Infinity newydd, rhan o gasgliad Cygnet Gin a sefydlwyd gan y gantores Gymreig Katherine Jenkins OBE.
Fe wnaeth Aaron ac Oliver cwrdd ag aelodau o’r Senedd i rannu eu teithiau prentisiaeth, gan gynnwys y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan: Prif Weinidog Cymru a Jack Sargeant AS: Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, sy’n gyfrifol am brentisiaethau yng Nghymru.
Bore Iau roedd Swyddog Hyfforddiant Cambrian, Alex Woolfenden, yn Premier Inn, yng Nghanol Dref Llandudno, i helpu i ddathlu dros 20 o brentisiaid presennol a chyn-brentisiaid sy’n gweithio yn Premier Inn ledled Cymru. Trefnwyd y brecwast dathlu gan Alex a Paul Moore o’r Premier Inn.
Roedd dydd Gwener yn cynnwys ymweliad diweddar gogyddion proffesiynol a Swyddogion Hyfforddiant Cambrian, Andy Addis-Fuller a Jobe Davies, i Ysgol Bro Caereinion Cyfnod Uwchradd, lle gwnaethant roi myfyrwyr coginio blwyddyn 9,10 a 11 ar waith. Yn y gweithdy, gwnaeth y myfyrwyr creu prydau Cymreig clasurol: Bara soda, cawl a chaws pob Cymreig. Roedd y sgiliau a ddysgwyd yn cynnwys sut i ddilyn ryseitiau yn ddiogel ac yn gywir, paratoi a phobi toes bara soda, sgiliau torri proffesiynol a sut i wneud saws wedi’i seilio ar roux ar gyfer y caws pob Cymreig.
Roedd y sbotolyn ar brentisiaethau Rheoli Adnoddau Cynaliadwy ar ddydd Sadwrn. Mae Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn gweithio gydag Adran gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych ers flynyddoedd lawer. Rhannodd Graeme White, Rheolwr Gweithrediadau Gwastraff ac Ailgylchu ac Owen Lokier, Arweinydd Llanw’r Tîm Gwastraff ac Ailgylchu sy’n astudio ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy (Goruchwyliaeth), eu profiadau uniongyrchol o’r rhaglen brentisiaeth fel cyflogwr a phrentis.
Daeth Wythnos Prentisiaethau Cymru i ben gyda phostiad ‘Dydd Sul y Prentis’ wythnosol Hyfforddiant Cambrian, yn dathlu’r prentis, Luke Williams sy’n gweithio yn Premier Inn, a oedd wedi cwblhau ei brentisiaeth Rheoli Lletygarwch Lefel 4 yn llwyddiannus.
Yn ystod yr wythnos, cynhyrchodd yr ymgyrch gyrhaeddiad o fwy na 17,000 – tair gwaith yn fwy nag wythnos arferol – a sbardunodd sgyrsiau gyda llawer mwy o bobl sy’n awyddus i ddysgu am gyfleoedd prentisiaethau. Dangosodd yr ymateb trwy gydol yr wythnos gydnabyddiaeth gynyddol o brentisiaethau fel llwybr gwerthfawr i gyflogaeth fedrus ac atgyfnerthu cyfraniad parhaus y rhaglen at ddatblygu gweithluoedd ledled Cymru.