Lansio gwasanaeth Prentisiaethau newydd ar gyfer cyflogwyr

Mae gwasanaeth newydd ar gael ar gyfer busnesau sy’n awyddus i recriwtio prentisiaid neu ddefnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru i gynyddu sgiliau eu gweithwyr.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli dros gant o ddarparwyr dysgu ledled Cymru, wedi penodi tîm o arbenigwyr i’w gwneud yn haws i gyflogwyr ymwneud â Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Nod Tîm Prentisiaethau NTFW yw sicrhau bod rhagor o gyflogwyr yn recriwtio prentisiaid, ynghyd ag annog recriwtio pobl ifanc i sectorau cyflogaeth o bwysigrwydd cenedlaethol neu ranbarthol.

Ariannir y tîm gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a bydd yn cydweithio â chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru, gyda’r nod o gynnig gwasanaeth arbenigol i bawb sy’n holi am brentisiaethau.

Mae’r tîm yn cynnwys dau swyddog ymgysylltu, Sam Cutlan ac Andrea Sammon a thri rheolwr datblygu rhanbarthol ar gyfer y Rhaglen Brentisiaethau, Joanne O’Keefe (y de-ddwyrain), Catherine Morris (y gogledd) a Rhys Daniels (y de-orllewin a’r canolbarth).

Sam ac Andrea sy’n trafod ymholiadau cychwynnol cyflogwyr sy’n llenwi ffurflen mynegi diddordeb ar wefan Llywodraeth Cymru, Porth Sgiliau Busnes Cymruhttps://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy neu ffôn 03301 228338.

Mae Joanne, Catherine a Rhys yn cydweithio â chyflogwyr mawr, yn enwedig y rhai sy’n talu’r Ardoll Brentisiaethau, i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a phrentisiaethau.

Trwy siarad â chyflogwyr, mae’r tîm yn canfod yn fuan iawn beth yw eu hanghenion a pha fframwaith a llwybr Prentisiaethau sy’n addas cyn trosglwyddo’r achos i’r darparwyr dysgu sydd yn y sefyllfa orau i gyflenwi Rhaglen Brentisiaethau ar gyfer y sector hwnnw.

Ar ôl canfod darpariaeth addas, mater i’r cyflogwr yw dewis pa ddarparwr yr hoffai gydweithio ag ef. Mae’r tîm yn hollol ddiduedd.

Ar ôl i’r cyflogwr fynegi diddordeb, ni ddylai gymryd mwy na phum diwrnod i’r darparwr dysgu gysylltu ag ef. Y nod yw darparu llinell uniongyrchol ar gyfer cyflogwyr sy’n chwilio am wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn Prentisiaethau.

Cynhelir ymgyrch gyhoeddusrwydd ac ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r gwasanaeth newydd a rhoi gwybod i gyflogwyr amdano. Bwriad y gwasanaeth cyfeirio newydd yw helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o greu 100,000 o Brentisiaethau o safon uchel yng Nghymru yn ei thymor presennol.

Dywedodd Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW, bod y ddarpariaeth brentisiaethau yng Nghymru’n esblygu’n barhaus i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru’n cael y gwasanaeth y maen nhw’n chwilio amdano. Datblygwyd y broses mewn ymgynghoriad â’r rhwydwaith darparwyr cyfan ac rydym yn awyddus iddo weithio i bawb.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae’r broses atgyfeirio newydd a gynigir gan yr NTfW yn ei gwneud yn haws o lawer i gyflogwyr ledled Cymru gymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau a chanfod y gwasanaeth penodol y maen nhw’n chwilio amdano.

Trwy gymryd rhan yn ‘Prentisiaethau yng Nghymru’, mae cyflogwyr yn creu gweithlu sy’n gallu ymateb yn well i’r gofynion, sy’n fwy brwdfrydig ac sy’n meddu ar y sgiliau allweddol a’r profiad angenrheidiol. Mae prentisiaethau’n helpu busnesau i fod yn fwy proffidiol ac yn helpu cyflogwyr i fod yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud yn dda wrth anelu at y nod uchelgeisiol o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y weinyddiaeth hon. Mae mwy iddi na chyrraedd targedau. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod y cyfleoedd iawn yn cael eu creu yn y meysydd iawn fel y gall unigolion, busnesau a’r economi ffynnu.”

Dywedodd Sarah John, Cadeirydd NTfW: “Mae lansio’r tîm newydd yn garreg filltir arall i’r NTfW wrth geisio darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweld bod angen cyfeirio ymholiadau am brentisiaethau i un man lle gall cyflogwyr gael cyngor cyfredol a chywir am y prentisiaethau. Mae hyn yn cynnwys deall ym mha sectorau a swyddi y mae prentisiaethau ar gael, gwybod pa ddarparwr all gynnig y gwasanaeth yn lleol ac ateb y cwestiwn allweddol ‘A yw hyn yn cael ei gyllido?’

Trwy fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) mae’r NTfW wedi llwyddo i gyflogi pump o weithwyr allweddol i ateb y cwestiynau hyn ac i fynd allan i’r gweithle i godi ymwybyddiaeth gan sicrhau bod rhagor o alw am y Rhaglenni Prentisiaethau ardderchog sydd gennym yng Nghymru.

Bydd y tîm newydd yn gaffaeliad mawr i’r cant a mwy o ddarparwyr sydd gennym ledled y wlad yn ateb gofynion cyflogwyr ac yn creu gweithlu cymwys ar gyfer y dyfodol yng Nghymru.”

Roedd darparwyr dysgu yn barod iawn i groesawu’r tîm newydd.

 

Dywedodd Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae penodi’r tîm newydd yn gam da iawn a fydd yn galluogi’r rhwydwaith i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau ac ymateb mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol i anghenion penodol y cyflogwyr.”