Lleoliadau newydd Kickstart ar gyfer chwilio am waith

P’un a ydych chi’n benderfynol o gael eich hun ar y blaen mewn gyrfa benodol, neu’n chwilio am y camau cyntaf i ddysgu’r hyn sy’n addas i chi, rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau chwilio am swydd fel person ifanc 16-24 oed.

Er hynny, mae yna gannoedd o rolau allan yna sydd yn berffaith i chi, fel rhan o gynllun Kickstart y llywodraeth, ac mae Hyfforddiant Cambrian yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r lleoliad gwaith sy’n iawn i chi. Mae yna lwyth o ffyrdd y gallwch chi ddarganfod swyddi gwag Kickstart yn eich ardal chi.

Os ydych chi’n 16-24 ac yn derbyn Credyd Cynhwysol, yna mae cynlluniau Kickstart wedi’u cynllunio ar eich cyfer chi – swyddi â thâl 6 mis gyda chyflogwyr lleol a fydd yn eich helpu i ennill wrth ddysgu.

Felly ble ydych chi’n dechrau? Wel yn gyntaf oll, ewch i’r dudalen Swyddi ar ein gwefan, sydd â dwsinau o leoliadau Kickstart o bob rhan o Gymru!

Ond mae yna lefydd eraill hefyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am swyddi gwag newydd Kickstart; mae ffeiriau swyddi Kickstart wythnosol bellach yn rhedeg ar-lein, sy’n gyfle gwych i gael gwybodaeth am swyddi newydd, cyfle i siarad â chyflogwyr Kickstart a chrynodeb o’r holl rolau sydd ar gael.

Gweler y rhestr o Ffeiriau Swyddi Rhithiol yma –

Gogledd Ddwyrain a Chanolbarth Cymru

Pob dydd Llun am 11:00
Ffair Swyddi Kickstart Powys – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Pob dydd Mawrth am 14:00
Ffair Swyddi Kickstart Sir y Fflint – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Pob dydd Iau am 11:00
Ffair Swyddi Kickstart Wrecsam – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Pob dydd Gwener am 11:00
Ffair Swyddi Kickstart Sir Ddinbych – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Gogledd Orllewin Cymru

Pob dydd Mawrth am 11:00
Ffair Swyddi Kickstart Conwy – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Pob dydd Mercher am11:00
Ffair Swyddi Kickstart Gwynedd ac Ynys Môn – Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

Mae yna gymysgedd o ffeiriau swyddi rhithiol, ac oriau sbotolau, lle mae busnesau a chynghorau yn eich ardal chi’n rhannu swyddi gwag. Gallwch hefyd weld rhai digwyddiadau cenedlaethol gyda sefydliadau fel yr URC a’r Llyfrgell Brydeinig gyda chyngor a help ar sut i gael swydd.

Gweler y rhestr lawn yma!