Mae Meini Prawf Prentisiaeth wedi ehangu er mwyn helpu i gefnogi busnesau Lletygarwch i ailadeiladu

Diwygiwyd y meini prawf ar gyfer cyflogi prentis yng Nghymru yn y sector lletygarwch yn ddiweddar, er mwyn helpu busnesau i ailadeiladu ar ôl y pandemig COVID. Yn flaenorol, roedd y meini prawf yn golygu bod staff presennol dros 25 ond yn medru dechrau cwrs level 2 o fewn 6 mis ar ôl dechrau eu rôl, a level 3 o fewn 12 mis. Fodd bynnag, yn ddiweddar, bu Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda’r sector lletygarwch ac wedi deall eu hangenion am staff a chefnogaeth bresennol i ailagor a chael mynediad at bob lefel cymhwyster prentisiaeth ar gyfer yr holl weithwyr, i helpu i sicrhau bod eu gweithlu’n gadarn ac wedi’u hyfforddi i’r uchaf o safonau’r diwydiant gan wneud adferiad yn gyflymach ac yn fwy effeithiol fel rhan o’r cynllun ‘Dewch i Siapio’r Dyfodol’.

Mae prentisiaethau yn ddewis gwych i gyflogwyr a gweithwyr, gan sicrhau datblygiad personol a gyrfaol i weithwyr wrth greu gweithlu cryf, galluog a medrus iawn i fusnesau, yn hyderus o wybod bod y sgiliau y mae eu gweithwyr yn eu dysgu yn seiliedig ar eu model busnes. Mae ein prentisiaethau yn gwbl seiliedig ar waith ac nid oes angen eu rhyddhau i’r coleg am ddiwrnod pob wythnos. Mae’n rhaid i gyflogwyr gael eu gweithlu ar y llawr yn dysgu’n union sut mae’r busnes yn rhedeg o ddydd i ddydd, a hyd yn oed yn well mae’r gweithwyr yn ennill wrth iddynt ddysgu.

Gallwn helpu i gefnogi’ch busnes trwy ddysgu yn y gwaith sy’n cynnig amrywiaeth o gymwysterau prentisiaeth o fewn lletygarwch, gan hyfforddi staff ym mhob maes gan gynnwys; Cogyddion, Blaen Tŷ, Glanhau, Rheolwyr a mwy, gallwn gynnig prentisiaethau o lefelau 2-5, mae lefel 5 yn cyfateb i radd sylfaen.

Mae gan ein tîm ymroddedig dros 300 mlynedd o brofiad cyfun ac mae ein dull hyfforddi wedi’i deilwra ac yn hyblyg, bydd cynnwys y cymhwyster yn cael ei greu i fod yn benodol i’ch anghenion busnes, gan sicrhau y bydd yr hyn y mae eich gweithwyr yn ei ddysgu o fudd uniongyrchol i’ch twf busnes ac rydym bob amser yn addo gwneud hynny drwy weithio o amgylch eich amserlen fusnes, gan helpu i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib i’ch busnes.

Yn ogystal â’r newidiadau i’w gwneud hi’n haws cyflogi ac uwchsgilio staff, mae’r cymhelliant cyflogwr hefyd wedi’i ymestyn yn ddiweddar tan 30 Medi 2021 gan ganiatáu i gyflogwyr dderbyn hyd at £ 4,000 am gyflogi prentis newydd. (mae lefelau cyllid yn dibynnu ar feini prawf)

Fel cwmni rydym yn gyffrous am y newid hwn ac estyniad y cymhelliant, dywed ein Rheolwr Gyfarwyddwr Arwyn Watkins, MBE ei fod yn cefnogi’r symud ac yn falch iawn i’n cyflogwyr ym maes lletygarwch, “mae hyn bellach yn golygu y gallwn gyflawni ein hystod lawn o brentisiaethau seiliedig ar waith lletygarwch wedi’u hariannu i staff newydd a phresennol o bob oed, ni waeth pa mor hir rydych chi wedi eu cyflogi.”

I ddarganfod mwy am logi prentis neu uwchsgilio’ch staff presennol, cysylltwch â’n tîm profiadol – info@cambriantraining.com