Cefnogaeth Twf Swyddi Cymru i helpu busnesau Cymru i ddod nôl ar eu traed!

Pennawd llun: Rheolwr gweithrediadau Confederate Chemicals, John Hextall, gyda’r gweithiwr Nia Faith-Williams a gafodd ei recriwtio trwy’r rhaglen Twf Swyddi Cymru.

Mae cyflogwyr sy’n ailagor ac yn dod nôl ar eu traed o’r bandemig COVID-19 yn cael eu cynghori gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian i ystyried ceisio am gefnogaeth gan raglen Twf Swyddi Cymru (JGW) os ydyn nhw’n edrych i greu cyfleoedd gwaith newydd.

Cynlluniwyd y rhaglen i helpu busnesau sy’n tyfu ledled Cymru i greu cyfleoedd gwaith cynaliadwy i bobl ifanc ddi-waith a pharod i weithio rhwng 16 a 24 oed.

Bydd angen i recriwtiaid newydd gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol am o leiaf 25 awr yr wythnos ac mae’r rhaglen yn ad-dalu hanner eu cost gyflog am y chwe mis cyntaf.

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn rhoi cyfle gwerthfawr i bobl ifanc, sy’n barod am waith, gychwyn ar eu gyrfa a gallai fod yn offeryn allweddol wrth helpu economi Cymru i wella o’r pandemig.

I dderbyn cefnogaeth, rhaid i fusnes greu swydd go iawn ac nid lleoliad gwaith chwe mis neu waith dros dro a rhaid i’r busnes fod wedi masnachu am fwy na chwe mis yn y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru.

Peidiwch ag anghofio, os yw recriwtiwr Twf Swyddi Cymru wedi creu argraff ar fusnes sy’n ddigon i ennill swydd amser llawn, dychmygwch yr hyn y gallai ef neu hi ei gyflawni gyda hyfforddiant pellach a chymorth sgiliau, fel prentisiaeth.

Oherwydd bod Cwmni Hyfforddiant Cammbrian yn cydnabod bod recriwtio staff newydd yn gofyn am amser ac ymrwymiad, cefnogir y cyflogwyr gan y cwmni, fel asiant rheoli, sy’n caniatáu iddynt ganolbwyntio ar gael y gorau o’u gweithiwr newydd o’r diwrnod cyntaf.

Er mwyn gwneud y broses recriwtio hyd yn oed yn haws, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn rhestru’r holl swyddi gwag ar adran Twf Swyddi Cymru gwefan Gyrfaoedd Cymru, eu gwefan ac yn eu hyrwyddo ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol. Yna gall pobl ifanc sy’n barod am waith wneud cais ar-lein.

Mae miloedd o bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, coleg neu brifysgol ledled Cymru’r haf hwn yn cael eu cynghori i wirio, ar-lein neu ar gyfryngau cymdeithasol, yr ystod o swyddi gwag sydd ar gael mewn busnesau sy’n gweithio gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian.

I wneud cais am y cyfleoedd gwaith ar wefan Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ewch i https://www.cambriantraining.com/wp/cy/jobs/ neu chwiliwch #CambrianJobSearch ar gyfryngau cymdeithasol.

Rhaid i gyflogwyr sydd â diddordeb mewn creu cyfle am swydd lenwi ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb yma yn gyntaf.

Fel un o brif ddarparwyr dysgu yn y gweithle yng Nghymru, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn cefnogi busnesau sydd wedi’u lleoli yn Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Swydd Gaer, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r cwmni hefyd yn darparu prentisiaethau mewn Lletygarwch, gan gynnwys Crefft Bwyd a Sefydliad Tafarnwyr Prydain, Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, Cigyddiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar Plant, Ceffylau, Gwasanaethau Ariannol, Arwain a Rheoli Tîm, Technolegau Peirianneg a Gweithgynhyrchu, Manwerthu a Gwasanaeth Cwsmer, Rheoli Adnoddau Cynaliadwy a Pheirianneg Gynaliadwy a Pheirianneg Dŵr.

Un busnes sydd wedi elwa o Dwf Swyddi Cymru yw Confederate Chemicals yn y Drenewydd lle dywedodd y rheolwr gweithrediadau John Hextall “Mae Confederate Chemicals wedi cael profiad cadarnhaol iawn gyda Thwf Swyddi Cymru

“Roedd gennym swydd newydd yn ein labordy ac fe gymerwyd Nia-Faith Williams (a oedd wedi gadael Ysgol) arno, ar mae wedi bod yn rhagorol ac yn cyfrannu at y timau cemegol a gwerthu.
“Yn ogystal, cawsom gyllid o tua £ 3,000 i helpu i wneud iawn am y costau cyflogaeth. Byddwn yn argymell y rhaglen i unrhyw gyflogwr sydd am greu swydd newydd gynaliadwy wedi’i hanelu at rywun o dan 25 oed. ”

Holi nawr…

Cysylltwch ag un o’n Swyddogion Ymgysylltu Busnes ar gyfer eich ardal chi,
am gyngor neu help ar sut i wneud cais:

  • Gogledd Cymru: Debbie Roberts – debbie@cambriantraining.com | 07966 453 882
  • Canolbarth Cymru: Andrew Thompson – andrew.thompson@cambriantraining.com | 07498 717 847
  • De a Gorllewin Cymru: Emyr Jones – emyr.jones@cambriantraining.com | 07788 922 956