Mae Kepak yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau yn ei ffatri prosesu cig a’i ladd-dy llwyddiannus ym Merthyr Tudful i gefnogi datblygu sgiliau a chynnydd ar draws ei weithlu.
Y safle yw un o’r mwyaf o’i fath yng Nghymru gan gyflogi o bron i 1,000 o bobl.
Mae’r cwmni, sydd â 14 o safleoedd gweithgynhyrchu ledled y DU a’r Iwerddon, wedi defnyddio’i weithrediad yn Kepak Merthyr fel glasbrint ar gyfer datblygu sgiliau, prentisiaethau, cynlluniau olyniaeth a datblygu rheoli ar draws y busnes ac maent yn awyddus i ehangu cyfleoedd i’w weithlu.
Mae’r safle ym Merthyr yn cynnwys dau ladd-dy, neuadd diesgyrnu cig eidion a chig oen, a gweithrediad manwerthu a dosbarthu.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gweithio’n agos gyda Kepak i deilwra prentisiaethau i ddiwallu anghenion penodol y busnes. Cyflwynir prentisiaethau sy’n amrywio o lefelau 2 i 4 mewn Arwain Tîm y Diwydiant Bwyd, Rheoli Technegol a Gweithrediadau Technegol, Cigyddiaeth a Phrosesu Cig, Rhagoriaeth Manwerthu Bwyd, Rheoli, Arwain Tîm a Gweinyddu Busnes.
Ers 2020, mae 73 o weithwyr wedi cyflawni prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae 47 o weithwyr yn gweithio tuag at gymwysterau ar hyn o bryd ac mae 13 wedi cwblhau yn ystod y chwe mis diwethaf.
Mynychodd wyth o’r cyflawnwyr diweddaraf a dau o’u rheolwyr seremoni raddio prentisiaeth diweddar Gwmni Hyfforddiant Cambrian a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd.
“Mae prentisiaethau yn hynod bwysig i Kepak oherwydd eu bod yn ein helpu i fuddsoddi yn nyfodol ein pobl a’n busnes,” esboniodd Jenna Hardie, rheolwr Adnoddau Dynol y cwmni ym Merthyr. “Maent hefyd yn caniatáu inni adeiladu gweithlu medrus a llawn cymhelliant, gan ddod â syniadau newydd, talent newydd a datblygiad parhaus i’r cwmni.”
Mae un o raddedigion prentisiaeth, Leah Chapman, bellach yn agos at gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd, ar ôl symud ymlaen o Brentisiaeth mewn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd. Mae wedi ennill dyrchafiad o gydlynydd Iechyd a Diogelwch i reolwr.
Gweithiwr arall sydd wedi dringo trwy’r rhengoedd yw Marcin Andrzejewski a ymunodd â Kepak yn 2007 fel paciwr asiantaeth ac sydd bellach yn rheolwr diesgyrnu cig oen, ac yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Rheoli.
“Rydyn ni’n hynod falch o’n prentisiaid a’r effaith maen nhw’n ei chael ar draws y busnes,” ychwanegodd Jenna. “Trwy brentisiaethau, rydym wedi gweld gwelliannau mewn cadw gweithwyr, datblygu sgiliau a chynnydd mewnol, gyda phrentisiaid yn aml yn symud ymlaen i rolau uwch neu arbenigol yn y busnes.
“Mae’r rhaglenni hefyd wedi helpu i gryfhau cynhyrchiant ac ymgysylltu trwy ddatblygu gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi i’r lefel uchaf ac sydd â diddordeb yn llwyddiant y cwmni.
“Yn ogystal, mae prentisiaethau yn cefnogi cynllunio olyniaeth trwy greu llif gref o dalent yn y dyfodol, lleihau costau recriwtio a’n helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn y busnes.”
Canmolodd gyfraniad Cwmni Hyfforddiant Cambrian at stori llwyddiant y prentisiaethau.
“Yr hyn sy’n eu gwneud yn sefyll allan fel darparwr hyfforddiant yw eu cefnogaeth ymarferol, cyfathrebu cryf, ac ymrwymiad gwirioneddol i’r dysgwr a’r cyflogwr,” meddai Jenna.
“Maen nhw’n cymryd yr amser i ddeall ein hanghenion busnes a sicrhau bod y rhaglenni prentisiaeth yn darparu gwerth gwirioneddol i bawb sy’n cymryd rhan.”
Fel rhan o’i strategaeth hirdymor ar gyfer pobl a’r busnes, mae’r cwmni wedi ymrwymo i barhau i dyfu a buddsoddi mewn prentisiaethau. Mae’r rhaglen gyrfaoedd cynnar Kepak, Kickstart, yn cefnogi prentisiaid, graddedigion ac arweinwyr y dyfodol ar draws y busnes.
“Fel un o brif gyflogwyr yn yr ardal, ein ffocws yw creu hyd yn oed mwy o gyfleoedd ar draws gwahanol feysydd o’r busnes, datblygu arweinwyr y dyfodol a sicrhau bod gennym y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiant bwyd modern, arloesol,” ychwanegodd Jenna.
Dywedodd Mark Hughes, Rheolwr Gweithrediadau Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae ymrwymiad Kepak i brentisiaethau yn eithriadol, ac mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain. Mae eu buddsoddiad mewn datblygu pobl ar bob lefel wedi creu gweithlu medrus iawn sy’n parhau i dyfu gyda’r busnes.
“Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â thîm sy’n gwerthfawrogi dysgu a dilyniant, ac rydym yn falch iawn o weld cymaint o’u prentisiaid yn cyflawni, symud ymlaen ac yn dod yn arweinwyr y dyfodol yn y cwmni.”
Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i’r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.
Mae’r cwmni a’i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Alison Collingridge, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.