Salad cynnes grugiar, sicori rhost a chnau Ffrengig wedi’u piclo

Gan Nick Davies, Hyfforddwr Crefftau, Hyfforddiant Cambrian

Tymor yr Helgig ydy’r adeg gorau o’r flwyddyn i roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. Mae’n debyg eich bod chi wedi mwynhau blas cigog, bras ac ansawdd danteithiol helgig mewn bwytai, ond ydych chi wedi ceisio ail-greu’r prydau hyn gartref?

Y Nadolig hwn, beth am roi cynnig ar y salad gaeaf blasus cynnes hwn gyda theulu a ffrindiau.

Dyma ganllaw cam wrth gam ar sut i baratoi a choginio’r saig salad helgig cynnes hon:

Ar gyfer 4 o bobl

Cynhwysion

  • 2 grugiar cyfan
  • 2 Pen Grugiar Mawr
  • 1 Llwy fwrdd. finegr sieri
  • 50g Braster hwyaden
  • 30g Menyn
  • 20g Siwgr mân
  • 25g Cnau Ffrengig wedi’u torri
  • 4 Cnau Ffrengig wedi’u piclo
  • 10ml Olew cnau
  • 1 Llwy fwrdd. finegr sieri
  • 1 Llwy fwrdd. Mwstard Dijon
  • 1 Bwnsiad o letys frisee
  • Halen a phupur

Paratoi a Choginio eich Salad Grugiar Cynnes:  

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200c
  2. Leiniwch hambwrdd pobi gyda papur parchment
  3. Trimiwch y sicori a thynnwch y dail brown, ond peidiwch â thorri’r coesyn ar y gwaelod oherwydd bod hwn yn dal y sicori gyda’i gilydd. Torrwch y sicori yn ei hanner ar ei hyd ac yna, torrwch pob hanner yn bedwar darn cyfartal ar eu hyd. Yna, rhowch y sicori ar yr hambwrdd pobi, a thaenwch y finegr sieri drosto.
  4. Rhowch nifer dda o dalpiau o fenyn ar y sicori a sesnwch yn dda, taenwch y siwgr mân dros y sicori, a choginiwch yn y ffwrn am 15 munud
  5. Gwiriwch y sicori ar ôl 15 munud. Os yw wedi dechrau brownio, trowch ef drosodd yn y menyn wedi toddi, ychwanegwch y cnau Ffrengig a’u dychwelyd i’r ffwrn am 5 munud arall nes bydd y cnau Ffrengig a’r sicori bron yn frown euraid, a’u gadael i oeri.
  6. Tynnwch y coesau a’r asgwrn tynnu oddi ar y grugieir, a gadewch y ddwy fron ar y grib. Toddwch y braster hwyaden a’r menyn mewn padell ffrio dros wres canolig. Ychwanegwch y grugieir a’u coginio am 2-3 munud, nes iddynt frownio, yna trowch nhw drosodd a’u coginio am 8 munud arall mewn ffwrn ganolig, neu nes eu coginio at eich dant. Rhowch o’r neilltu am 5 munud ac yna, tynnwch y bronnau o’r crib, a cherfiwch pob bron yn sleisys tenau.
  7. I greu’r dresin, rhowch yr olew cnau, finegr sieri a mwstard mewn powlen a chymysgwch yn dda. Sesnwch fel y dymunwch.
  8. I weini, rhowch y salad frisée a’r sicori ar bedwar plât, Trefnwch y grugieir a’r cnau Ffrengig wedi’u sleisio a’u piclo. I orffen, taenwch gyda thipyn o’r cnau Ffrengig rhost a thipyn o’r dresin.

Mae’r grefft o baratoi helgig yn datblygu sgiliau sydd yn cael eu dysgu gan brentisiaid wrth weithio tuag at Brentisiaeth Lefel 2 neu Lefel 3 mewn Coginio Crefftus, ac mae’n cynnwys paratoi a choginio amrywiaeth o helgig. I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, cysylltwch â Hyfforddiant Cambrian ar cambriantraining.com, neu ffoniwch: 01938 555893.