Sgiwer Rocedi Ffrwythau a Chwyrligwgan

I ddathlu noson coelcerth eleni, beth am roi cynnig ar wneud y Sgiwer Rocedi Ffrwythau a Chwyrligwgan blasus hyn fel trît melys hyfryd i’r plant mawr a bach ym mhob un ohonom!

I ddechrau beth am wneud eich Swiss Roll eich hun gyda’n rysáit isod. Os bod amser yn gyfyng, fe all un wedi’i brynu o’r siop weithio cystal, ond ddim mor foddhaol na blasus â’i gwneud eich hun.

Offer
-Sgiwer Mawr
-Bwrdd Torri
-Cyllell (Dan oruchwyliaeth)
-Hambwrdd Swiss Roll
-Bowled gymysgu
-Flachlamp tân (o bosib neu defnyddiwch nwy hob)

Cynhwysion Swiss Roll
-Olew ar gyfer y saim
-85g blawd plain, wedi’i didoli
-Pinsied o halen
– 3 wy
– 5g Rinflas Fanila
– 85g siwgr caster
– 400ml hufen dwbl neu chwipio
– 25g siwgr eisin
-Jam frwyth o’ch dewis

Cynhwysion y Sgiwer
-Swiss Roll
-Malws Melys
-Melon Mel Melog
-Melon Dwr
-Mefus
-Siocled Llaeth
-Cola or liquorice laces
-Cannoedd a miloedd lliwgar

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180 ° C.
  2. Paratowch dun Swiss roll. Rhowch ddarn o bapur gwrthsaim ynddo wedi’i dorri i ffitio gwaelod y tun yn union a’i frwsio ag olew. Ysgeintiwch gyda siwgr a blawd.
  3. Hidlwch y blawd gyda’r halen.
  4. Rhowch yr wyau a’r siwgr mewn powlen gwrth-wres wedi’i osod dros, (nid mewn) sosban o ddŵr sy’n mudferwi. Chwisgiwch y gymysgedd nes ei fod yn ysgafn, yn drwchus ac yn fflwfflyd. (Os ydych chi’n defnyddio cymysgydd trydan, nid oes angen gwres.) Parhewch i chwisgo nes ei fod wedi’i oeri ychydig.
  5. Gan ddefnyddio llwy fetel mawr, plygwch y dŵr, y rhinflas fanila a’r blawd i’r gymysgedd wyau.
  6. Arllwyswch y gymysgedd i’r tun wedi’i baratoi.
  7. Pobwch am I2 ~ I5 munud, neu nes nad oes argraff nodau ar ôl pan fydd y sbwng yn cael ei wasgu’n ysgafn â bys, ac mae’r ymylon yn edrych ychydig yn grebachlyd.
  8. Gosodwch ddarn o bapur gwrthsaim ar y ford a’i daenu’n gyfartal â siwgr mân. Gan ddefnyddio cyllell, llaciwch ymylon y sbwng wedi’i bobi, ac yna trowch hi drosodd i’r papur gwrthsaim siwgrog.
  9. Tynnwch y papur leinin bant. Gan ddefnyddio’r papur o dan y gacen i’ch helpu chi, rholiwch y gacen yn gadarn o un pen. Mae gwneud toriad bach ar draws lled y gacen yn union le rydych chi’n dechrau rholio yn helpu i gael rholyn tynn da.
  10. Gadewch i’r gacen oeri, yn y cyfamser chwipiwch yr hufen gyda’r siwgr i gopa meddal.
  11. Agorwch y Swiss roll cyn rhoi haenen o’r jam ac yna’r hufen, ail-roliwch a’i lapio mewn papur gwrthsaim cyn gosod yn yr oergell

Matsis Melys
Torrwch y careiau cola / licris yn ddarnau 6cm a throchwch y 1cm uchaf i’r siocled wedi’i doddi ac yna’n syth i mewn i gannoedd a miloedd i wneud iddyn nhw edrych fel matsis

I baratoi gweddill yr eitemau ar gyfer y sgiwer;

  • Sleisiwch y Swill Roll yn dafelli 2cm o drwch a llithro ymlaen i’r sgiwer yn gyntaf i ddangos fel chwyrligwgan.
  • Dros wres uchel, tostiwch y malws melys heb iddynt doddi ond digon iddynt edrych wedi’u dostio. Gadewch iddynt oeri cyn llithro i’r sgiwer
  • Torrwch y melonau yn giwbiau mawr ychydig yn llai na’r malws melys a’u rhoi ar y sgiwer
  • Toddwch y siocled, trowch 75% o’r mefus i mewn iddo cyn ychwanegu darnau cannoedd a miloedd lliwgar i’r siocled gwlyb. Gadwech nhw ar ddalen o bapur gwrthsaim nes iddynt setio yna llithrwch i’r sgiwer i wneud pwynt eich roced

Os ydych chi’n mwynhau coginio ac yr hoffech gael mwy o wybodaeth am ein prentisiaethau ar gyfer cogyddion, edrychwch ar ein Tudalen Prentisiaeth Lletygarwch>>