Twf Swyddi Cymru yn agor drws i yrfa ddelfrydol Marc

Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru wedi agor y drws i yrfa ddelfrydol i Marc Pugh lle mae’n gallu ildio i’w angerdd am weithio gyda cheffylau.

Mae Marc, 20, o Lanfaredd, ger Llanfair-ym-Muallt, wedi helpu i ehangu’r busnes ers ymuno â thîm y cyfarwyddwr Nicky van Dijk yn Happy Horse Retirement Home yng Nghrai, ger Aberhonddu lle mae wedi cael dyrchafiad i reolwr cynorthwyol yr iard.

Mae ganddo gymaint o ymrwymiad i’r cwmni, sy’n darparu hafan i berchnogion ymddeol eu hannwyl geffylau, y gwnaeth daith ddwyffordd 72 milltir ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan i fonitro a nyrsio ceffylau sâl.

Recriwtiodd y cwmni Marc i ddatblygu’r busnes, sydd wedi tyfu 20 y cant mewn tair blynedd. Bu’n berchen ar geffylau ers yn bump oed, cyflawnodd Ddiploma estynedig mewn Rheolaeth Ceffylau gyda rhagoriaeth ar gampws Walford Coleg Gogledd Swydd Amwythig cyn cychwyn ei yrfa.

Cafodd Marc ei gydnabod am ei lwyddiant trwy gael ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cyflawnwyr Eithriadol Twf Swyddi Cymru yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar Hydref 20.

Wedi’u trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae’r gwobrau mawreddog yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwobrau gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Pearson CCC yn noddi’r gwobrau ac mae’r partner cyfryngau Media Wales yn eu cefnogi.

Ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Reidio a Gofal Ceffylau a Chymhwyster Reidio a Diogelwch Ffordd Cymdeithas Ceffylau Prydain, cafodd Marc ei gadw a’i ddyrchafu pan ddaeth ei raglen Twf Swyddi Cymru i ben.

Mae wedi symud ymlaen i Brentisiaeth mewn Reidio a Gofal Ceffylau trwy Raglen Recriwtiaid Newydd Llywodraeth Cymru, wedi cyflawni cymhwyster cam tri Cymdeithas Ceffylau Prydain ac yn ceisio dod yn hyfforddwr reidio cymwys. Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw ei ddarparwr dysgu.

“Rwyf wedi gwrando ar fy mentor/hyfforddwr Nicky a phrofi i’m hun a’m rhieni fy mod yn canolbwyntio ar fy nyfodol,” meddai Marc, sydd ag enw da am aros yn ddigyffro mewn argyfwng. “Rwyf wedi cyflawni nodau nad oeddwn yn tybio y buaswn yn gallu gwneud.”

Llongyfarchodd Gweinidog Cymru dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, Marc a’r 32 unigolyn arall sydd wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol y wobr. Rydym yn falch i fod yn darparu nifer o raglenni hyfforddiant galwedigaethol llwyddiannus yng Nghymru â chyfraddau llwyddiant ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru’n aros ymhell yn uwch nag 80 y cant”, meddai hi.

Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi.” Mae gennym ddysgwyr gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn darparu llwyfan perffaith i ni ddathlu eu cyflawniadau a’u gwaith caled. Mae’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant yr un mor bwysig, gan fynd cam yn ychwanegol i gefnogi eu dysgwyr.”

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr marchnata a chyfathrebu NTfW, ar Ffôn: 02920 495861.