Y diwydiant lletygarwch mewn argyfwng oherwydd nid oes digon o bobl ifanc yn dewis gyrfa fel cogydd

Mae’r diwydiant lletygarwch mewn argyfwng oherwydd nid oes digon o bobl ifanc yn dewis gyrfa fel cogydd, mae llywydd Cymdeithas Coginio Cymru wedi rhybuddio.

Mae Arwyn Watkins yn bryderus yngl?n â phrinder pobl sy’n mynd i mewn i’r diwydiant yn ogystal â’r gyfradd gadael uchel ar ôl i ddysgwyr gwblhau eu cyrsiau addysg bellach.

Fel rheolwr gyfarwyddwr y darparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, mae’n ymwybodol iawn o’r materion sy’n wynebu’r diwydiant lletygarwch. Meddai bod yr argyfwng yn y penawdau ar draws Gogledd Ewrop a Gogledd America, yn ogystal â Chymru a’r DU.

“Credaf nad yw hyn yn brinder sgiliau bellach, ond yn brinder pobl,” dywedodd yn swper gwobrau Pencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru (WICC). “Nid yw digon o unigolyn yn ystyried y diwydiant hwn fel dewis gyrfa o ddifrif. Hyd yn oed pan fyddant wedi gwneud y dewis gyrfa hwnnw, nid yw digon ohonynt yn gwneud symud ymlaen i’r diwydiant ar ôl cwblhau addysg bellach.

“Dyma ddiwydiant sy’n bwysig iawn i ddyfodol economi Cymru ac mae angen i ni weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i sicrhau y gallwn gynyddu nifer y bobl sy’n dewis cael gyrfa yn ein diwydiant.

“Mae’n rhaid i ni weithio gyda chyflogwyr i rannu ymarfer gorau ar gydbwysedd bywyd a gwaith a deinameg a disgwyliadau’r gweithle sy’n newid. Bellach nid yw ein diwydiant yn gallu goroesi ar ewyllys da. Mae’n rhaid i bawb ohonom feddwl yn wahanol er mwyn i ni sicrhau gweithlu cynaliadwy. Ni fydd hynny’n hawdd ond mae’n angenrheidiol.”

Rhoddodd longyfarchiadau i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r WICC am ddwyn sylw at y ffaith ei fod yn ddiwydiant cyffrous a datgelodd y bydd un o aelodau Cymdeithas Goginio Cymru yn gweithio’n fwy agos ac effeithiol â darparwyr dysgu ôl 16 yng Nghymru yn y dyfodol.

Roedd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, yn westai yn y swper gwobrau, a dywedodd ei bod yn angerddol yngl?n â chodi proffil gyrfaoedd gwerth chweil a chyffrous yn y diwydiannau bwyd a thwristiaeth yng Nghymru.
Roedd gan y wlad cogyddion a chynhyrchwyr bwyd a diod o’r radd flaenaf, ac roedd busnesau lletygarwch yn datblygu enw da am ragoriaeth, ond mae angen gwneud mwy, ychwanegodd.

Manylodd ar nodau Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru i dyfu’r sector bwyd a diod, a ddisgrifiodd fel “seren y dyfodol economi Cymru”, gan 30 y cant i £7 biliwn erbyn 2020.

Hefyd tynnodd sylw at y cyfraniad pwysig gall cogyddion a’r diwydiant lletygarwch ei wneud at gyflawni nodau y manylwyd arnynt yng Nghynllun Gweithredu Twristiaeth Fwyd i Gymru trwy sefydlu Cymru fel cyrchfan twristiaeth fwyd.

Diolchodd Mr Watkins i’r Dirprwy Weinidog am nodi Cymdeithas Goginio Cymru fel hyrwyddwr y sector bwyd a diod a dywedodd fod cogyddion yn cefnogi Cynllun Gweithredu Twristiaeth Fwyd i Gymru yn llwyr.

Un o’r tîm o feirniaid ar gyfer pedwar diwrnod y WICC oedd Will Holland, cogydd â sêr Michelin o Fwyty Coast, Saundersfoot. Wrth gydnabod problemau’r diwydiant o ran recriwtio, roedd yn obeithiol yngl?n â’r brwdfrydedd, egni a safonau a gyflawnwyd yn y cystadlaethau, a ddenodd oddeutu 300 cogydd o bob rhan o’r DU i Goleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos.

“Roedd yn wych gweld yr amrywiaeth o gogyddion, o fyfyrwyr i uwch gogyddion,” meddai. “Y prif bethau sylwais arnynt oedd safon ardderchog y cystadlaethau â’r egni a brwdfrydedd yn y diwydiant. Mae’n fy llenwi â hyder bod yna gogyddion a fydd yn llenwi ein hesgidiau yn y dyfodol.

“Roedd safon y cogyddion yn rowndiau terfynol Cogydd Iau a Chogydd Cenedlaethol Cymru yn ffantastig a chredaf fod hyn yn dweud llawer yngl?n â safle coginio yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae digwyddiadau fel Pencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru yn bwysig i roi sylw i’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru ac mae fel sbardun i lansio cogyddion i’r byd ehangach.

“Roedd agwedd a brwdfrydedd y cogyddion ifanc yn ffantastig. Gallwch ddysgu iddynt sut i goginio ond ni allwch addysgu agwedd iddynt. Roedd rhai o’r myfyrwyr coleg yn cystadlu am dri diwrnod yn olynol ac roeddent yma hyd y gystadleuaeth olaf oherwydd eu bod eisiau gwylio a dysgu cymaint â phosibl.

“Gwnaethant ddewis bod yma’n coginio yn hytrach na bod ar wyliau, sy’n dweud llawer am eu hagwedd.”

Diolchodd Mr Watkins i’r holl gystadleuwyr, noddwyr, a beirniaid am wneud y WICC mor llwyddiannus.

Enillwyr y prif wobrau oedd: Enillydd Cogydd Iau Cymru, Ben Mitchell, Gwesty’r Grove, Arberth. Enillydd Cogydd Cenedlaethol Cymru, Ben Mitchell, Gwesty a Sba Lucknam Park, ger Caerfaddon. Enillwyr Brwydr y Ddraig, Lloegr. Enillydd y dosbarth byw agored, Elise Evans, Coleg y Cymoedd. Tîm byw gorau, Coleg Loughborough. Enillydd cyffredinol Cacen Cymru, Dianne Swan, cyn dysgwr Coleg Llandrillo. Gwobr hylendid gorau wedi’i noddi gan Eco Lab, Shannon Lee, Coleg Dinas Lerpwl. Coleg gorau, Coleg Gogledd North Warwick a Hinckley.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Arwyn Watkins, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd, ar Ffôn: 01686 650818.