Ymunwch â’r daith rithiol Llwybr Ffordd Cambrian i godi arian ar gyfer Marie Curie

Mae un o brif ddarparwyr prentisiaethau’r wlad yn estyn gwahoddiad agored i ymuno mewn taith gerdded rithiol ledled Cymru i godi arian i Marie Curie.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gobeithio y bydd unigolion, teuluoedd, busnesau, sefydliadau a chlybiau chwaraeon yn ymuno â staff i gyrraedd pellter o 291 milltir, Llwybr Ffordd Cambrian yn rhithiol o fewn 60 diwrnod yn dechrau ar Awst 1af.

Gall pawb sy’n cofrestru i ymgymryd â’r her codi arian wneud hynny ar eu pennau eu hunain neu drwy rannu’r pellter fel tîm neu gyda theulu a ffrindiau.

Mae syniad cychwynnol Cwmni Hyfforddiant Cambrian, o gynnwys staff a’r prentisiaid a’r busnesau y maent yn gweithio gyda nhw ledled Cymru, bellach wedi tyfu i gynnwys unrhyw un a hoffai gymryd rhan i hybu eu hiechyd a’u lles meddyliol, wrth gefnogi elusen boblogaidd iawn.

Gall plant hefyd gofrestru ac ymuno ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan.

Mae’r cwmni, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair ym Muallt, Caergybi a Bae Colwyn, wedi mabwysiadu Marie Curie fel elusen y flwyddyn 2021.

Mae Marie Curie, sydd wedi gweld codi arian yn cael ei daro’n ddifrifol gan y pandemig, yn darparu gofal nyrsio a hosbis rheng flaen, llinell gymorth am ddim a chyfoeth o wybodaeth a chymorth ar bob agwedd ar farw, marwolaeth a phrofedigaeth.

Gall y rhai sy’n cymryd rhan yn y daith gerdded neu redeg rhithiol naill ai sicrhau nawdd a chofnodi’r milltiroedd y maent yn cerdded mewn dogfen neu i wneud cyfraniad arian i dudalen codi arian – https://www.justgiving.com/fundraising/cambriantraining 

Mae Constructive Clothing Ltd, prif gyflenwr dillad brand a dillad chwaraeon yng Nghanolbarth Cymru a Swydd Amwythig, yn cefnogi’r her drwy noddi crysau-t y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn eu derbyn fel rhan o’u ffi gofrestru o £15. – (COFRESTRWCH AR GYFER Y DIGWYDDIAD YMA) (SIGN UP TO THE EVENT HERE)

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gofyn i bawb sy’n cymryd rhan i rannu eu lluniau drwy dagio @cambriantrainingcompany ar Facebook, @cambriantraining ar Instagram a @CTCwbl ar Twitter.

Mae Llwybr Ffordd Cambrian yn ymestyn o Gaerdydd i Gonwy, gan groesi Mynyddoedd Cambrian, sydd wedi dylanwadu ar yr enw Hyfforddiant Cambrian

Dywedodd Katy Godsell, rheolwr marchnata Hyfforddiant Cambrian: “Mae taith gerdded neu redeg rhithiol Llwybr Ffordd Cambrian yn agored i unrhyw un a hoffai gymryd rhan i wella eu ffitrwydd, eu hiechyd neu eu lles meddyliol.”

“Byddai mor arbennig i ni pe tai busnesau a’r prentisiaid yr ydym yn gweithio gyda nhw, ynghyd ag aelodau o’r teulu a ffrindiau, yn ymuno â ni hefyd drwy ymrwymo i wneud rhan o’r llwybr yn rhithiol.

“Y mwyaf o filltiroedd rydyn ni’n cerdded neu’n rhedeg, y mwyaf o arian y byddwn ni’n ei godi i Marie Curie, sy’n cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl yng Nghymru ac sydd angen cefnogaeth y cyhoedd yn fwy nag erioed.”

Dywedodd Vaughan Harding, o Constructive Clothing Ltd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gefnogi’r digwyddiad rhithiol gan fod Marie Curie yn elusen wych sy’n agos iawn at ein calonnau. 

“Ar ôl treulio llawer o’r flwyddyn ddiwethaf dan glo, mae’r rhan fwyaf o bobl yn awyddus i fynd allan ac ymarfer corff a gallant bellach drosi’r milltiroedd y maent yn cerdded neu’n rhedeg yn arian parod y mae mawr ei angen ar gyfer elusen sy’n gwneud cymaint o waith da yn ein cymunedau.”

Dywedodd Charli Thomas, codwr arian cymunedol Marie Curie: “Mae Marie Curie Cymru mor falch o gael ei ddewis fel elusen y flwyddyn Hyfforddiant Cambrian. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i elusennau ac mae ein nyrsys Marie Curie a’n swyddogion llinell gymorth gwybodaeth wedi parhau i gefnogi pobl sy’n byw gyda salwch terfynol, trwy hynny i gyd.”Rydym mor hapus i gael cefnogaeth Hyfforddiant Cambrian i helpu i ariannu’r gwasanaethau rheng flaen hanfodol hyn yng Nghymru. Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan yn y daith gerdded rithiol Llwybr Ffordd Cambrian.”

Ddwy flynedd yn ôl, cododd Hyfforddiant Cambrian £2,290 ar gyfer Ymchwil Canser drwy redeg, cerdded a beicio 1,000 o filltiroedd, gan ymweld â phob un o Ranbarthau Cymru, yn ystod y flwyddyn. Roedd tîm o aelodau staff hefyd yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer yr elusen.

 

Mae Hyfforddiant Cambrian yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws ystod o ddiwydiannau ledled Cymru. Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Constructiv Clothing Ltd yn arbenigo mewn addurno dillad drwy frodwaith, argraffu finyl, argraffu trosglwyddo ac argraffu sgrin gyda detholiad o ddillad hamdden tîm, ysgol, gwaith a  chorfforaethol. Mae’r cwmni’n cyflenwi brandiau gorau gyda phersonoli proffesiynol i glybiau chwaraeon, timau, elusennau, cynghorau sir, busnesau mawr/bach, asiantaethau marchnata, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, i enwi ond rhai ohonynt. Cysylltwch â’r cwmni ar Ffôn: 01686 610890 neu 07974176663, e-bost: vaughan.harding@constructiv.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, drwy Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, drwy Ffôn: 01686 650818.