Tri chynnig i Gymro wrth i Tom ennill teitl Cogydd Cenedlaethol Cymru

Achos o dri chynnig i Gymro oedd hi i’r cogydd dawnus Tom Westerland a goronwyd yn Gogydd Cenedlaethol Cymru neithiwr (nos Iau).

Ar ôl dod yn agos at ennill y teitl yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, dathlodd y prif gogydd 26 oed yng Ngwesty Lucknam Park, Colerne, fuddugoliaeth y tro hwn, a hynny mewn rownd derfynol
eithriadol o agos ym Mhencampwriaethau Coginio Ryngwladol Cymru, a gynhaliwyd dros bedwar diwrnod ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn- Rhos.

Rhannwyd y rownd derfynol yn ddwy rownd ragbrofol, gyda thri chogydd yn cystadlu ym mhob un. Daeth y canlynol yn agos at y brig: Dion Wyn Jones, 30 oed, o Westy Carden Park, Caer; MatthewRamsdale, 25 oed, The Chester Grosvenor, Caer; Matthew Smith, 34 oed, Gwesty Hawkstone Park, Weston-under- Redcastle, Yr Amwythig; Gavin Kellett, 33 oed, The Vine Tree, Llangatwg, Crucywel a John Quill, 45 oed, JQ Catering Services Ltd, y Barri.

“Rwy’n gegrwth a dweud y gwir,” oedd ymateb Westerland yn syth ar ôl derbyn tlws y ddraig. “Ar ôl gweld seigiau trawiadol pawb arall, nid oeddwn yn hyderus o ennill ac roeddwn i’n nerfus iawn wrth aros iddynt gyhoeddi’r canlyniad.
“Mae’r wobr hon yn golygu popeth i mi ac mae’n dyst i’r hyn y gall tair blynedd o waith caled, dyfalbarhad a datblygiad ei wneud i chi.”
Dyma’r ail gogydd o Lucknam Park i ennill y wobr, gan ddilyn yn ôl troed Ben Taylor yn 2016. “Rydw i wedi bod yn syllu ar dlws fy mhennaeth ers tair blynedd ac erbyn hyn mae gennyf fy nhlws fy hun,” ychwanegodd.

Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cogydd Cenedlaethol y Flwyddyn y llynedd a drefnwyd gan y Craft Guild of Chefs, mae’n edrych ymlaen at gystadlu unwaith eto eleni.
Yn ogystal â derbyn tlws y ddraig, enillodd daith coginio hollgynhwysol o dridiau gyda Koppert Cress yn yr Iseldiroedd, a fydd yn cynnwys dosbarth meistr gan gogydd dwy seren Michelin, coginio mewn cegin ddatblygu ar gyfer prif weithredwr y cwmni a chyflwyniad i ddatblygiadau newydd berwr a thueddiadau newydd ym marchnad goginio’r Iseldiroedd.
Yn ogystal, cafodd gwerth £250 o gynhyrchion Churchill a set o gyllyll gan Friedr Dick wedi’u hysgythru.

Dechreuodd ei fwydlen fuddugol gyda chwrs cyntaf o selsig Morgannwg, salad o fetys cochion treftadaeth, pecanau sglein a saws betys cochion. Ei brif gwrs oedd ffiled o gig eidion Wagyu o
Gymru, nionod wedi’u mudstiwio mewn cwrw, cavolo nero, trumpette du, nionod crensiog a Lapsang souchong. Y pwdin oedd cacen gaws chwisgi Penderyn, afal Bramley, sorbed mwyar duon a
chrymbl cnau barfog.

Rhoddwyd tair awr i’r sawl yn y rownd derfynol baratoi a choginio bwydlen tri chwrs i bedwar o bobl gan ddefnyddio cynhwysion o Gymru lle bo’n bosibl.

Am y tro cyntaf yn rownd derfynol Cogydd Cenedlaethol Cymru, coginiodd un o’r cogyddion fwydlen hollol feganaidd. Gweinodd Gavin Kellett gwrs cyntaf o cannelloni gwymon y Cymro, cafiar jin Da Mhile, sesame, bresych deiliog a bara lawr Blodyn Aur. Y prif gwrs oedd rosti tatws, confit cennin, veloute a garlleg du gyda phwdin o panna cota seidr Gwynt y Ddraig, fanila, crymbl a mwyar duon wedi’u heplesu.

Daeth Smith a Ramsdale yn agos at y brig am yr ail flwyddyn yn olynol. Gweinodd Smith gwrs cyntaf o granc a melon fodca, wedi’i ddilyn gan brif gwrs o ffiled asen 90 diwrnod, espuma wystrys, piwrî madarch gwyllt mwg, ffriter asen frau, tatws wedi’u coginio mewn toddion, llysiau a grefi eidion. Y pwdin oedd gellyg wedi’u potsio mewn port a hibisgws, panna cotta Perl Las, teisen gellyg, tuile pupur du, hufen iâ mascarpone a mwyar duon.

Dechreuodd bwydlen Ramsdale gyda chregyn bylchog Môn rhost, blodfresych wedi’u carameleiddio, rhesins euraidd a blasau cyw iâr. Y prif gwrs oedd brest hwyaden Loomswood, cawl nionod llosg, garlleg a chennin syfi. Y pwdin oedd crème fraîche, clementin, caramel hallt Halen Môn a chnau pistasio. Y pwdin oedd Mouse siocled a chnau cyll o Gymru, taffi cnau cyll Halen Môn, griottine a hufen iâ cwrw ceirios.

Cwrs cyntaf Jones oedd brithyll seithliw Ynys Môn, rillettes cranc wedi’u piclo Conwy, piwrî moron a chranc brown, moron bychain wedi’u piclo, pyffion reis gwyllt a leim ffres. Y prif gwrs oedd brest cyw iâr organig Ystâd Rhug wedi’i goginio ar farbeciw Quinta Kamado, pei Wooltons, nionod rhost, cennin bychain, sbigoglys llipa a grefi adenydd cyw iâr.

Dechreuodd fwydlen Quill gydag arancini cennin a madarch gwyllt, tomato sbeislyd, pesto gwyrdd a phwmpen cnau menyn. Y prif gwrs oedd ffiled o gig oen Cymru rhost, tatws pomme Anna Sir
Gaerfyrddin, seleriac rhost, creision betys cochion, piwrî mango a mintys. Aeth amser yn drech nag ef i goginio’i bwdin o tuiles siocled, mafon a phistasio gyda pheli banoffi a saws sitrws.

Roedd y rownd derfynol yn benllanw ar bedwar diwrnod yn olynol o gystadlaethau yn y Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol, a welodd 370 o gogyddion a staff blaen tŷ yn cystadlu.

Daethpwyd â chystadlaethau coginio pob gwlad at ei gilydd mewn un lleoliad am y tro cyntaf.

Yn ogystal â chystadlaethau’r Cogydd Cenedlaethol a Chogydd Iau Cymru, cynhaliwyd rowndiau coginio terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a’r Gystadleuaeth Ranbarthol Ryngwladol Fawr ochr yn ochr â chystadleuaeth y Frwydr am y Ddraig rhwng timau cenedlaethol iau Cymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd y gwobrau ac fe’u cyflwynwyd mewn cinio a gynhaliwyd yng Ngwesty Bae Llandudno, a fynychwyd gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

Pwysleisiodd Mrs Griffiths pa mor bwysig oedd y diwydiant bwyd i economi Cymru gan ganmol cwmnïau bwyd a diod ‘gwych’ a chogyddion dawnus y wlad. Roedd hi’n awyddus i hyrwyddo ystod y
cyfleoedd gyrfa cyffrous oedd ar gael yn y diwydiant.

Diolchodd Arwyn Watkins, llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru y cystadleuwyr, y beirniaid a’r noddwyr am wneud Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru mor llwyddiannus eleni, gyda
mwy o ddosbarthiadau a chystadleuwyr. “Mae’r wythnos hon wir wedi dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn gweithio ar y cyd gyda phobl o’r un anian,” meddai.

Trefnir Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru gan Gymdeithas Coginiol Cymru a’r prif noddwr yw Bwyd a Diod Cymru, sef adran Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod.

Ymhlith y noddwyr eraill mae Hybu Cig Cymru, Castell Howell, Major International, Harlech Foods, H.N. Nuttall, Churchill, MCS Tech, Rollergrill, Koppertcress a Dick Knives.