Ffurfia brentisiaethau ran bwysig o ddatblygu sgiliau a hyfforddiant yn y gweithle yng Nghymru ni waeth ym mha sector ydych chi na pha mor fawr neu fach yw’ch busnes. Mae system prentisiaethau Cymru eisoes yn cyflawni o ran ansawdd, gyda chyfraddau cwblhau fframwaith o dros 80% ac mae’n bodloni anghenion y cyflogwyr yn barhaus.
Er mis Ebrill 2017, mae’r newidiadau yn y ffordd yr ariennir prentisiaethau yn y DU wedi effeithio ar fusnesau yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod ei ymrwymiad i brentisiaethau’n parhau’n ddigyfnewid a bydd pob gweithiwr yn parhau i gael mynediad i’w raglen brentisiaeth.
Beth yw’r Ardoll Brentisiaethau?
Bydd yr Ardoll yn cael ei chasglu gan unrhyw gyflogwr gyda bil o £3miliwn neu’n fwy’r flwyddyn. O hyn, bydd 0.5% yn mynd tuag at dalu’r ardoll, ond ceir lwfans blynyddol o £15,000.
Bydd yr arian a godir o’r Ardoll yn cael ei fuddsoddi’n ôl i brentisiaethau, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a galw am brentisiaethau a datblygiad y gweithlu.
Yng Nghymru, bydd busnesau’n parhau i gael eu prentisiaethau wedi’u cyflwyno trwy rwydwaith caffael presennol Llywodraeth Cymru o ddarparwyr hyfforddiant y mae eu hansawdd wedi’i sicrhau, fel Hyfforddiant Cambrian. Mae’r system hon yn sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau Cymru’n cael eu sicrhau trwy ganolbwyntio ar ansawdd a gwerth am arian.
Recriwtio
Bydd recriwtio prentisiaid newydd yn galluogi cyflogwyr i gydbwyso cost yr Ardoll gyda’r potensial i gael mynediad i gyllid ychwanegol. Mae ein rhaglen brentisiaeth yn agored i bob cyflogwr ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, trwy e-bost katy@cambriantraining.com