Hyfforddiant Cambrian yn noddi offer pêl-rwyd a hoci ysgol

Capsiwn y llun: Y Cyfarwyddwr Elen Rees, y rheolwr marchnata Katy Godsell, a’r cydlynydd gweithgareddau ‘rhoi cynnig arni’ Vicky Watkins o Hyfforddiant Cambrian Training yn cyflwyno’r offer pêl-rwyd a hoci i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caereinion dan ofal y prifathro Philip Jones a’r athrawes addysg gorfforol, Catrin Jones.

Mae gan y timau pêl-rwyd a hoci sy’n cynrychioli Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion set newydd o offer i’w gwisgo diolch i Hyfforddiant Cambrian, y darparwr hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau.

Mae noddi’r offer yn gwella ymhellach perthynas y cwmni â’r ysgol a’i disgyblion. Croesewir staff o Cambrian Training i’r ysgol i roi cyngor ynglŷn â llwybrau prentisiaeth sydd ar gael i ddisgyblion sy’n ystyried eu hopsiynau gyrfa ac i ddarparu gweithgareddau ‘rhoi cynnig arni’.

Mae’r swyddog hyfforddiant lletygarwch, Donna Heath, o’r cwmni, hefyd yn cynnal sesiynau cyn-brentisiaeth wythnosol i ddisgyblion sy’n dymuno symud ymlaen i brentisiaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol yn 16 oed.

Diolchodd y pennaeth Philip Jones i Hyfforddiant Cambrian am noddi’r offer. “Mae’r ysgol yn gwneud yn arbennig o dda o ran llwyddiant chwaraeon ar lefel leol, sirol a chenedlaethol,” meddai.

“Y llynedd, llwyddwyd i sicrhau llwyddiant ar lefel sir o ran hoci a phêl-rwyd ac mae’r cyfraddau cymryd rhan ar draws yr ysgol yn uchel iawn.

“Rwy’n falch iawn bod Hyfforddiant Cambrian wedi cydnabod yr ymroddiad i chwaraeon yn yr ysgol ac mae’r ddau sefydliad yn cydnabod pwysigrwydd parhau i hybu iechyd a lles.”

Gan gyfeirio at berthynas yr ysgol â Hyfforddiant Cambrian i wneud disgyblion yn ymwybodol o gyfleoedd prentisiaeth, esboniodd: “Rydyn ni’n trin pob plentyn fel unigolyn ac, wrth ddod i adnabod eu diddordebau a’u dyheadau gyrfaol penodol, rydyn ni’n sylweddoli ni fydd y llwybr academaidd traddodiadol yn eu helpu i lwyddo weithiau.”

Mae’r ysgol hefyd yn gweithio â darparwyr dysgu eraill i roi cyngor i ddisgyblion am ddewisiadau gyrfaol penodol. “Dydyn ni ddim yn eu gweld nhw fel bygythiad, ond fel gweithio cydweithredol,” ychwanegodd Mr Jones. “Allwn ni ddim gweithio mewn unigedd ysblennydd.”

Dywedodd rheolwr marchnata Hyfforddiant Cambrian, Katy Godsell: “Mae noddi’r offer yn rhan o berthynas barhaus y cwmni â’r ysgol i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd prentisiaeth ac i gefnogi pobl ifanc yn y gymuned.”

Mae Hyfforddiant Cambrian yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ledled Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.