Yn Rownd Derfynol SRM

Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi’i ddewis i fod yn Rownd Derfynol Gwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau CIWM – yng Nghategori Gwobr Dysgu a Datblygu Roger Hewitt.

Mae’r Gwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau’n rhai hirsefydlog ac uchel eu parch, a roddir dim ond am gyflawniadau eithriadol yn y diwydiant cynaliadwyedd, adnoddau a gwastraff. Mae’r gwobrau mawreddog hyn, a feirniedir gan yr arbenigwyr uchaf eu parch yn y sector, yn cynrychioli’r lefel cyflawniad uchaf ac mae sefydliadau o bob cwr o’r DU sydd â chariad at ragoriaeth ac arweinyddiaeth meddwl yn cynnig amdanynt ac yn eu noddi.

Llongyfarchiadau i’n Tîm Rheoli Adnoddau Cynaliadwy ar y cyflawniad gwych hwn!