Cacen Nadolig a Phwdin Nadolig fel rhoddion

Cacen Nadolig a Phwdin Nadolig fel rhoddion!

RYSÁIT CACEN NADOLIG

Cynhwysion
2lb Ffrwythau sych cymysg yn cynnwys croen cymysg
6oz datys heb y cerrig torrwch yn fach
4oz prŵns, wedi coginio a heb y cerrig – torrwch yn fach
8oz cnau almon wedi ei hollti
12oz menyn
12oz siwgr brown tywyll
7 wy
1 lemon croen wedi gratio a’r sudd Lemon
1 Oren croen wedi gratio a’r sudd
14oz blawd
Pinsied o halen
Llwy bwrdd yr un o sbeis nytmeg, sinamon a sinsir
5 Llwy bwrdd Rum Barti Ddu Rum (neu rum o’ch dewis)
Mae hyn yn gwneud digon o gymysgedd ar gyfer tin 9” sgwâr neu 10” rownd

Dull
1. Rhowch yr holl ffrwythau gyda sudd a chroed wedi ratio y lemwn ac oren a’r holl sbeis mewn powlen. Ychwanegwch yr almonau wedi’u torri, y rum, cwpl o lwyau bwrdd o ddŵr berwedig (yn ddigonol i wneud y gymysgedd yn wlyb) ac yna ei adael i fwydo dros nos (gorchuddiwch â clynlun)

2. Rhidyllwch eich blawd a’ch halen i fowled. Rhowch y menyn a’r siwgr mewn powlen wydr dros ddŵr poeth (nid yn y dŵr) a gadewch i hyn eistedd yn ddigon hir nes bod y menyn a’r siwgr wedi toddi. Cymysgwch yn dda gyda’i gilydd, tynnwch o’r gwres a daliwch i guro nes ei fod yn oeri cyn ychwanegu’r wyau ychydig ar y tro

3. Rhowch y blawd yn y bowlen gyda’r ffrwythau a’i gymysgu’n dda i sicrhau bod yr holl ffrwythau a chnau wedi’u gorchuddio yn y blawd. Bydd hyn yn sicrhau nad ydynt yn suddo i waelod eich cacen wrth goginio. Ychwanegwch y gymysgedd menyn, siwgr ac wyau at hyn a’i droi yn dda cyn arllwys i’ch tun wedi’i iro a’i leinio. Rwy’n coginio fy un i mewn bain marie i sicrhau nad yw’r gymysgedd yn sychu.

4. Coginiwch am awr ar 150C yna trowch y tymheredd i lawr i 140C a pharhewch i goginio am 3 awr arall – Gorchuddiwch y top gyda ffoil – tynnwch i ffwrdd am yr awr olaf.

5. Gadewch y gacen yn y tun dros nos, ei gorchuddio â ffoil a lliain. Tynnwch y gacen pan fyddwch chi’n barod i’w thorri’n 4. Mae’r gacen hon mor llaith fel na fydd angen i chi ei bwydo ag alcohol pellach (oni bai eich bod eisiau gwneud hynny)

RYSÁIT PWDIN NADOLIG

Cynhwysion
1 lb Ffrwythau sych cymysg yn cynnwys croen cymysg
2oz datys heb y cerrig torrwch yn fach
2oz prŵns, wedi coginio a heb y cerrig – torrwch yn fach
1 moron wedi’i phlicio a’i ratio
1 afal melys wedi gratio
1oz almonau wedi’u torri
Oren croen wedi’i gratio a sudd
Lemwn croen wedi’i gratio a sudd
3-4 llwy bwrdd Rum Barti Ddu (neu rum o’ch dewis)
2oz siwgr brown tywyll
2oz briwsion bara ffres
2oz siwed wedi malu
2oz blawd

Dull
1. Cymysgwch bopeth mewn powlen fawr – gorchuddiwch â clynlun a’i adael dros nos.

2. Rhowch y gymysgedd i mewn i bowlen bwdin 2 beint (neu bowlen 1 peint a 2 bowlen hanner peint)

3. Gorchuddiwch â phapur gwrthsaim wedi’i iro gan ganiatáu plygu yn y canol a gwnewch yr un peth â haen o ffoil

4. Stêmiwch am oddeutu 3-4 awr ar gyfer y pwdin mawr ond tynnwch y 2 llai allan ar ôl tua 2.5 i 3 awr

5. Tynnwch y gorchuddion a rhowch bapur gwrthsaim sych glân dros y top a haen o ffoil

6. Dylai’r pwdinau storio am o leiaf mis mewn lle cŵl, yn ddelfrydol tan Ddydd Nadolig pan fydd angen i chi ail-gynhesu’r pwdin trwy stemio am 1.5 – 2 awr. Gweinwch gyda saws brandi.

7. Mae’r gymysgedd Pwdin yn gwneud digon ar gyfer un pwdin 1pt a 2 bwdin llai y gallwch chi wedyn eu rhoi i ffrindiau neu deulu fel anrheg.

Os ydych chi’n mwynhau coginio ac yr hoffech gael mwy o wybodaeth am ein prentisiaethau ar gyfer cogyddion, edrychwch ar ein Tudalen Prentisiaeth Lletygarwch>>