Prentisiaethau dwyieithog yn helpu cwmni i dyfu a datblygu

Bu prentisiaethau dwyieithog yn allweddol i dwf cwmni annibynnol llwyddiannus ym maes sgipiau a rheoli gwastraff yn y gogledd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.

Cwmni o Gaernarfon yw Thomas Skip and Plant Hire a, gan fod cynifer o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg, mae o’r farn ei bod yn bwysig i’r staff ddysgu trwy gyfrwng yr iaith.

Mae’r cwmni, sy’n annog cyflogwyr eraill i ystyried prentisiaethau dwyieithog a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Thomas Skip and Plant Hire, sydd â thri phrentis mewn gweithlu o 10, yn ymroi i warchod yr amgylchedd trwy gadw cymaint o wastraff ag y bo modd rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’n darparu gwasanaethau sgipiau a rheoli gwastraff ledled Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn ogystal â llogi peiriannau, a gwneud gwaith cliriio a pharatoi tir.

Iestyn and Natasha Thomas (right) Thomas Skip and Plant Hire Caernarfon, Apprentice Awards Small Employer of the Year finalist with apprentices Louise Jones (yellow vest) and Malcolm Williams (in cab)

Mae’r cwmni’n cynnig Prentisiaethau dwyieithog mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, Lefelau 2 a 3, a Diploma BTEC Pearson Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes a drefnir gan Hyfforddiant Cambrian.

Dywed Thomas Skip and Plant Hire fod y Rhaglen Brentisiaethau’n ei helpu i gadw staff yn hirach, ynghyd â chynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a dysgu mwy am y diwydiant gwastraff.

Cyflwynwyd prentisiaethau ar ôl adolygiad o’r busnes ac arolwg sgiliau pan welwyd bod angen hyfforddi ac addysgu’r gweithlu.

“Credwn y bydd gweithwyr hapus, sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac yn gallu gweithio’n ddiogel, yn ein helpu i gadarnhau ein henw da a pharhau i dyfu,” meddai Natasha Thomas, sy’n rhedeg Thomas Skip and Plant Hire gyda’i phartner Iestyn Thomas. “Rydym yn anelu at fod yn well na’n cystadleuwyr ac yn credu y bydd hyfforddi’n gweithwyr yn helpu’r cwmni i wella.

“Mae’n bwysig iawn i ni roi cyfle i’n gweithwyr symud ymlaen a gwella’u hunain. Maen nhw’n fwy hyderus wrth ddelio â chwsmeriaid ac yn fwy cywir wrth lenwi’r ffurflenni swyddogol sy’n hanfodol er mwyn cadw trwydded y safle.”

Dywedodd Heather Martin, pennaeth cynaliadwyedd a busnes gyda Hyfforddiant Cambrian: “Mae Thomas Skip and Plant Hire yn ymroi i hyfforddi’r gweithwyr a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn y gwaith. Mae’r cwmni’n enghraifft ardderchog o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y gweithle ac mewn hyfforddiant.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”