Dathlu Menywod sy’n Ysbrydoli a’u Gyrfaoedd – Elen, Anne & Faith #Torri’rrhagfar

Yma yn Hyfforddiant Cambrian rydym yn falch o’r menywod pwerus ar draws ein busnes. Mae menywod yn cyfrif am dros hanner ein gweithlu ar bob lefel o’r busnes, o’r rhai sydd newydd ddechrau, wrth iddynt ddatblygu eu gyrfa yn darparu hyfforddiant galwedigaethol, i lefel bwrdd.

 

Allan o’r 4 sydd yn eistedd ar ein bwrdd mae 3 arweinydd busnes benywaidd. Mae pob un ohonynt yn helpu i lunio’r busnes fel yr ydym yn ei adnabod heddiw.

 

Ymunodd ein Cyfarwyddwr Cyllid a Gweinyddu, Elen Rees, â’r cwmni ym 1997 fel Prentis Sylfaen ac mae bellach yn arwain y timau ariannol a gweinyddol.

Yn arwain ein Hansawdd a Sgiliau, mae Anne Jones. Bu Anne yn gweithio i ni rhwng 2001 a 2004 fel tiwtor ac asesydd, gan ail-ymuno â’r busnes yn 2020 fel Cyfarwyddwr Ansawdd a Sgiliau.
Yn olaf ein Prif Swyddog Gweithredu, Faith O’Brien. Mae gan Faith gyfoeth enfawr o brofiad a’i rôl yw sicrhau bod ein strategaethau busnes, ein cynlluniau a’n gweithrediadau, yn cefnogi diwylliant a gweledigaeth y sefydliad, ac yn y pen draw o fudd i’r unigolion a’r sefydliadau hynny rydym yn gweithio gyda nhw.

 

Rydym yn gwbl falch o’r bwrdd benywaidd cryf hwn a’r gwaith y maent yn ei wneud i  sicrhau ein bod yn parhau i arwain o’r blaen.