Annog busnesau sy’n tyfu i wneud cais am gymorth Twf Swyddi Cymru

Capsiwn y llun: Y cyfarwyddwr Nicky Van Dijk gyda’r rheolwr Marc Pugh a ddechreuodd weithio yn Happy Horse Retirement Home ar raglen JGW.

Mae Cambrian Training, yn y Trallwng, un o brif ddarparwyr dysgu yn y gwaith yng Nghymru, yn annog cyflogwyr sy’n creu cyfleoedd gwaith newydd i ystyried gwneud cais am gymorth oddi wrth Twf Swyddi Cymru (JGW) cyn i’r rhaglen ddod i ben.

Nod y rhaglen yw galluogi busnesau sy’n tyfu ledled Cymru i greu cyfleoedd gwaith cynaliadwy ar gyfer pobl ifanc sy’n ddi-waith ac yn barod am swydd rhwng 16-24 mlwydd oed.

Bydd aelodau o staff newydd yn cael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol am o leiaf 25 awr yr wythnos, ac mae’r rhaglen yn ad-dalu hanner eu costau cyflog am y chwe mis cyntaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn disodli JGW â rhaglen wahanol fis Mawrth nesaf, felly mae Hyfforddiant Cambrian yn annog cyflogwyr i beidio â gwastraffu unrhyw amser wrth wneud cais am gymorth.

Nod y rhaglen, y mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn ei chefnogi, yw darparu cyfle gwerthfawr i bobl ifanc sy’n barod am waith i roi hwb i’w gyrfa.

Er mwyn cael cymorth, mae’n rhaid i fusnes greu swydd go iawn ac nid lleoliad gwaith chwe mis neu ddarpariaeth dros dro ac mae’n rhaid ei fod wedi masnachu am fwy na chwe mis yn y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru.

Mae Hyfforddiant Cambrian yn cefnogi busnesau yn Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae’r cwmni’n darparu prentisiaethau yn y gwaith ym maes lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd a diod, rheoli adnoddau’n gynaliadwy, busnes a gweinyddu, arwain a rheoli tîm, cyfrifon AAT, gwasanaethau cynllunio ariannol, gwasanaethau i gwsmeriaid a sgiliau manwerthu, iechyd a gofal ceffylau, gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Un busnes sydd wedi elwa o JGW yw Happy Horse Retirementt Home yng Nghrai, ger Aberhonddu, sydd wedi ennill gwobrau. Mae pump o bobl ifanc wedi gwned cynnydd yn y busnes, y cartref ymddeol preifat cyntaf i geffylau ym Mhrydain Fawr, yn y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys Marc Pugh, sydd bellach yn rheolwr.

Mae Marc wedi symud ymlaen o JGW i Brentisiaeth Sylfaen, cymhwyster Lefel 4 Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae bellach yn ceisio cymhwyster Rheolwr Stabl y BHS. Yn ogystal, enillodd Wobr Cyflawnydd Eithriadol Twf Swyddi Cymru yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn 2016.

“Marc yw’r hysbyseb orau ar gyfer Twf Swyddi Cymru,” meddai Nicky Van Dijk, cyfarwyddwr y busnes. “Mae’r rhaglen yn gweithio i ni oherwydd ei bod yn help ariannol mawr wrth gyflogi unigolyn ifanc sy’n gallu rhoi cynnig ar swydd i weld a ydynt yn ei mwynhau.

“Mae’n risg i unrhyw gyflogwr gyflogi unigolyn heb gymwysterau ond mae pump o’r bobl ifanc rydym wedi’u cyflogi trwy Twf Swyddi Cymru wedi aros i wneud prentisiaethau ac mae rhai ohonynt bellach yn rhedeg eu busnesau eu hunain.”

Mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n dymuno creu cyfle gwaith lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb yn https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/jobs-growth-wales-form . I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Hyfforddiant Cambrian trwy e-bost: info@cambriantraining.com neu ffôn; 01938 555893.

I wneud y broses recriwtio yn haws i gyflogwyr, mae Hyfforddiant Cambrian yn rhestru’r holl swyddi gwag ar eu gwefan, adran Twf Swyddi Cymru ar wefan Gyrfa Cymru ac yn eu hyrwyddo ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae gan y cwmni 30 o swyddi gwag wedi’u rhestru ar ei wefan ei hun. I wneud cais am y cyfleoedd gwaith, ewch i https://www.cambriantraining.com/wp/en/jobs/ .

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant, ar Ffôn: 01938 555893.