Prentis Cogydd

Cogydd proffesiynol or Chef
Hay-on-Wye
Posted 3 months ago

Prentis Cogydd

The Old Black Lion

Lion Street

Hay-on-Wye

HR3 5AD

Dyletswyddau dyddiol: 

  • Paratoi bwyd.
  • Coginio a chefnogi gwasnaeth.
  • Helpu gyda rheoli cynhwysion a chyflenwadau
  • Gweithio gyda thîm cogyddion i ddatblygu bwydlenni.

Priodoleddau Personol Delfrydol:

  • Unigolyn sydd ag angerdd am fwyd a choginio sy’n barod i ddysgu a datblygu sgiliau.
  • Yn gallu gweithio mewn amgylchedd tîm arloesol a chyflym ac sy’n ddibynadwy ac yn gadarnhaol, gyda’r gallu i fod yn hyblyg yn eu horiau gwaith a’u cyfrifoldebau.
  • Mae hunangymhelliant, gwytnwch a meddylfryd twf yn allweddol i gael y gorau o’r cyfle i weithio yn ein cegin.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym yn gegin Rosette 2 AA gyda chogyddion ymroddedig sy’n rhedeg cegin broffesiynol ac effeithiol. Mae ein tîm o gogyddion yn brofiadol ac yn gallu cynnig llawer i rywun sydd eisiau gyrfa yn y diwydiant. Bydd cefnogaeth o fewn y rôl i sicrhau bod y cogydd yn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfle. Bydd buddion staff ar gael ar ben y cyflog.

Cwrs prentisiaeth:

Coginio Proffesiynol Lefel 2

Tal:

Cyfraddau Prentisiaethau a buddion

Oriau:

31-40 awr yr wythnos

Trefniadau cyfweliadau

Cyfarfod ar Y Safle

Gwneud Cais:

Anfonwch eich CV i info@oldblacklion.co.uk

Job CategoryThe Old Black Lion