Cacen Nadolig Figan

Rydym wedi gweld cynnydd enfawr mewn prydau Figan ar ein bwydlenni yn ddiweddar ac mae hyn wedi denu sylw a chefnogaeth llawer o Enwogion. Mae figaniaeth bellach yn ffordd o fyw poblogaidd sy’n cynnwys ymatal rhag bwyta cynhyrchion sy’n seiliedig ar anifeiliaid neu gynhyrchion fel menyn, wyau neu hyd yn oed mêl. Mae rhai o’r rhesymau dros ddewis figaniaeth yn seiliedig ar honiadau cynaliadwyedd amgylcheddol ac mae hyn wedi arwain at gogyddion yn dod yn fwy a mwy creadigol i ddiwallu’r anghenion hynny wrth i’r duedd dyfu. Fe wnaethon ni yn Cambrian ystyried sut y byddai hynny’n effeithio ar y ffordd rydyn ni’n cyflwyno ein prentisiaethau Coginio Proffesiynol a sut mae angen i ni addasu rhai o ofynion y cwrs fel ymateb i hyn.

Rhoddodd un o’n Swyddogion Hyfforddiant Lletygarwch Tim John gyflwyniad i’r tîm ar gacennau Figan ac ni allai’r panel beirniadu ddweud y gwahaniaeth mewn gwirionedd. Os oes gennych chi aelod o’ch teulu sy’n figan beth am eu synnu eleni gyda Chacen Nadolig Figan. Dyma un y mae Tim John wedi’i gynhyrchu ac rydym yn cynnwys y rysáit ar gyfer y gacen, y marsipán a’r eisin, pob un yn figan
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau arbrofi gyda’r rysáit hon. Postiwch eich lluniau ar ein tudalen FB – facebook.com/CambrianTrainingCompany/


Rysáit Cacen Nadolig Figan

Cynhwysion
Ffrwythau sych cymysg 1kg (mae Tim wedi defnyddio amrywiaeth o ffrwythau sych gan gynnwys prŵns a ffigys)
1 Oren (sudd a chroen)
1 lemon (sudd a chroen)
150ml Rum
250g olew cnau coco neu fenyn coco
200g siwgr brown meddal
100g almonau hollt
4 llwy fwrdd o hadau chia
175g Blawd hunan-godi
2 lwy de o sbeis cymysg
1 llwy de o sinamon daear
¼ llwy de clof wedi malu

Dull
Rhowch yr holl ffrwythau sych, sudd a chroen, rum, olew cnau coco, siwgr a sbeisys i mewn i sosban fawr a dod â nhw i’r berw yn araf, yna gostwng y gwres yn gyflym a gadael iddo fudferwi am ychydig funudau fel bod y siwgr yn toddi. Rhowch y gymysgedd i mewn i bowlen, gadewch iddo oeri yna ei orchuddio a’i adael dros nos yn yr oergell. Paratowch eich tun cacen ymlaen llaw trwy ei leinio â phapur gwrthsaim a gallwch hefyd lapio haen o ffoil o amgylch y tu allan i’r tun i atal y gacen rhag coginio yn rhy gyflym.
Yn y bore bydd angen i chi gymysgu’ch hadau chia gyda 150ml o ddŵr a gadael i eistedd nes bod yr hadau’n dod yn drwchus ac yn debyg i gel. Ychwanegwch hwn i’ch bowlen ynghyd â’r almonau a’r blawd a’i gymysgu’n dda cyn arllwys i’ch tun. Coginiwch yn ffan / nwy 2 150C / 130C am oddeutu 2 awr. Tynnwch y gacen o’r popty a’i gadael i oeri. Nawr gallwch chi fwydo’r gacen dros yr wythnosau nesaf gyda mwy o rum cyn i chi orchuddio gyda’r marsipán ac eisin figan ond peidiwch â bwydo’r gacen am wythnos cyn i chi wneud hynny i sicrhau bod yr wyneb wedi sychu.


Rysáit Marsipán Figan

Cynhwysion
90g + 1 llwy fwrdd o flawd almon wedi’i falu’n fân
70g Siwgr eisin
20ml Dŵr neu hylif felysydd
¼ – ½ llwy de o flas almon
½ llwy de o ddŵr rhosyn

Dull
Rhowch y siwgr eisin a’r blawd almon mewn prosesydd bwyd a blitsio nes eu bod yn llyfn iawn
Ychwanegwch y melysydd dŵr neu hylif, blas almon a dŵr rhosyn a phroseswch nes bod y toes yn dechrau ffurfio pêl. Os nad yw’ch toes yn dal at ei gilydd, ychwanegwch ychydig o ddŵr neu mwy o hylif ond byddwch yn ofalus i beidio ag ychwanegu gormod.
Tynnwch y gymysgedd o’r prosesydd a’i dylino ar fwrdd glân. Siapiwch i ffurfio boncyff a lapiwch mewn clynlun yna ei roi yn yr oergell er mwyn dod yn fwy cadarn.


Rysáit Eisin Figan

Cynhwysion
9 llwy fwrdd o heli gwygbys, y dŵr wedi’i ddraenio o gan o gwygbys
500g Siwgr eisin / wedi’i hidlo
2 lwy de o glyserin llysiau

Dull
Chwisgiwch yr heli gwygbys gyda chymysgydd trydan nes iddo fynd yn fflwfflyd cyn ychwanegu tua 400g o’r siwgr eisin yn araf cyn parhau i gymysgu ar gyflymder uchel nes bod y gymysgedd yn tewhau ac yn edrych yn sgleiniog.
Ychwanegwch weddill y siwgr gyda’r glyserin a daliwch i gymysgu nes bod y gymysgedd yn dod yn fwy cadarn
Os oes angen i’ch eisin fod yn fwy trwchus yna ychwanegwch fwy o siwgr eisin yn araf nes i chi gyrraedd y trwch gofynnol
Gallwch storio’r gymysgedd am ychydig ddyddiau ond ei orchuddio a’i gadw ar dymheredd yr ystafell.