Cigyddion yr Alban yn gwneud cais i fod yn bencampwr Cigyddiaeth WorldSkills UK

Bydd tri chigydd yn rhoi eu sgiliau ar brawf yn rhagbrawf yr Alban o gystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK.

Coleg Dinas Glasgow yw lleoliad y rhagbrawf ar 26 Mehefin lle bydd Robbie Hughan ac Euan McLagan o Blair Drummond Smiddy Farm Shop, Stirling ac Erin Conroy o Falleninch Farm, Stirling yn torchi llewys.

O’r tri rhagbrawf rhanbarthol neu asesu ar draws y DU, bydd y chwe chigydd gyda’r sgorau uchaf yn cymhwyso am y rownd derfynol a gynhelir yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15 i 17 Tachwedd.

Cynhaliwyd rhagbrawf Gogledd Iwerddon yn y Southern Regional College, Newry a chynhaliwyd rhagbrawf Cymru a Lloegr yng Ngholeg Prifysgol Birmingham yn gynharach yn y mis.

Yn y rownd derfynol, bydd y chwe chigydd yn cwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Canolbwyntia’r gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd.

Profir cigyddion am eu sgiliau cyffredinol, eu harloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r toriad gorau, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.

Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r sefydliad dyfarnu arbenigol FDQ, y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd.

I roi cynnig, rhaid bod y cigyddion heb gwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu gymhwyster cyfatebol.

Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael eu cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni sydd wedi profi eu bod yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach ac yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar safonau uchaf y DU ac yn rhyngwladol.

Cyflwynant fuddiannau nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr ond i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau hefyd. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’n paratoi prentisiaid gyda’r sgiliau o’r radd flaenaf y mae eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol.

Cred dros 95% o gyn ymgeiswyr fod cymryd rhan yn y cystadlaethau wedi gwella’u sgiliau technegol a chyflogadwyedd.