Cogyddion blaenllaw yn dathlu’r Gwobrau Mentor cyntaf erioed yn y Celtic Manor

Daeth dros 200 o westeion uchel eu proffil o bob cwr o’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo at ei gilydd am y Gwobrau Mentor-Gogyddion cyntaf erioed i gydnabod y mentoriaid mwyaf ysbrydoledig yn y sector.

Ymhlith yr enillwyr oedd Albert Roux OBE; gwobrwywyd Gwobr arbennig Peter Hazzard iddo am ei ymrwymiad gydol oes i hyfforddi a datblygu cogyddion sydd bellach wedi dod yn enwau blaenllaw yn y diwydiant.

Roedd y cogyddion a enillodd yn cynnwys unigolion o bob un o sectorau mawrion y diwydiant lletygarwch.

Mae rhestr lawn o’r enillwyr isod:

Mentor-Gogydd Bwyty Gorau, mewn cysylltiad ag EquipLine: Gerry Sharkey, La Bonne Auberge

(Canmoliaeth Uchel: Chris O’Callaghan, Castle Dairy)

Mentor-Gogydd Ysgol Gorau, mewn cysylltiad ag Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginio: Gareth Billington

Mentor-Gogydd Coleg Gorau, mewn cysylltiad ag Academi Foxes: Mandy Prince, Vision West Nottinghamshire College

Mentor-Gogydd Prifysgol Gorau, mewn cysylltiad ag AURES Technologies: Anthony Wright, Coleg Prifysgol Birmingham

Mentor-Gogydd Addawol, mewn cysylltiad â Hyfforddiant Cambrian: Leon Seraphin, Beyond Food CIC

(Canmoliaeth Uchel: Hrishikesh Desai)

Gwobr Peter Hazzard, mewn cysylltiad â’r Todiwala Foundation: Albert Roux OBE

Cafodd y canlynol sylw arbennig hefyd: Michael Burke o Goleg Sheffield am ei waith helaeth o gymell a mentora cogyddion ifanc ar draws gyrfa addysgu helaeth; Murray Chapman o First Contact – nid yw Murray yn gogydd ond cafodd ei ganmol am ei egni diflino wrth gefnogi colegau, myfyrwyr a chogyddion; a Hrishikesh Desai o Gilpin Hotel & Lake House am ysbrydoli ei dimau i gyflawni y tu hwnt i’w disgwyliadau.

Dywedodd Cyrus Todiwala, OBE, cadeirydd y beirniaid: “Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr mewn cystadleuaeth oedd yn eithriadol o anodd ei beirniadu.

“Mae pob un o’r cogyddion a enwebwyd wedi rhoi cymaint i’r diwydiant ac wedi ein helpu ni i barhau i fod yn un o’r cyfranwyr mwyaf arwyddocaol at economi’r DU.

“Mae pob un o’r mentoriaid yn haeddu cydnabyddiaeth a hoffwn ddiolch yn ddiffuant am bopeth maen nhw’n ei wneud.

“Mae ein diwydiant wedi’i adeiladu ar ddoniau, gwaith caled ac ymrwymiad llwyr i ddatblygu llawer o’n henillwyr yma heno.”

Ychwanegodd Mark Harris, cyfarwyddwr digwyddiadau, H&C EXPO: “Rydym wrth ein bodd dros bob un o’r enillwyr a’r rheiny a gyrhaeddodd rownd derfynol ein Gwobrau Mentor-Gogyddion cyntaf.

“Pan drafodon ni’r syniad gyda Cyrus a Pervin Todiwala yn y lle cyntaf, gwyddem fod yna gwir gyfle i daflu goleuni ar gynifer o’r bobl sy’n gwneud y diwydiant fel y mae.

“Rydym yn falch ein bod ni wedi gallu creu platfform newydd er mwyn iddynt gael eu cydnabod ac ni allwn aros am gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.”