Cwmni hyfforddiant cenedlaethol yn agor swyddfa newydd ar Faes y Sioe Frenhinol

Bydd y darparwr hyfforddiant arobryn ledled Cymru, sef Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn agor swyddfa newydd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r cwmni, sydd â phencadlys yn y Trallwng a swyddfeydd yng Nghaergybi, Bae Colwyn a Llanelli, wedi sicrhau prydles ar hen Bafiliwn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar faes y sioe yn dilyn proses dendro.

Mae rhan o’r fargen yn cynnwys cynnig y defnydd o’r adeilad i’r sir groesawu yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf. Mae’n addas mai’r sir groesawu gyntaf i fanteisio ar y cynnig hael yw Sir Drefaldwyn, sef lleoliad pencadlys Cwmni Hyfforddiant Cambrian. Dechreuodd y cwmni noddi cinio llywydd y sioe y tro diwethaf yr oedd Sir Drefaldwyn yn croesawu.

“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn sefydliad ledled Cymru a chredwn ei bod hi’n bwysig parhau i ddatblygu’r berthynas dda sydd gennym eisoes ar draws y wlad,” meddai’r rheolwr gyfarwyddwr Arwyn Watkins. “Rydym wrth ein boddau o fod mewn sefyllfa i gefnogi’r sir groesawu yn y Sioe Frenhinol bob blwyddyn.

“Mae’n hynod addas mai Sir Drefaldwyn yw’r sir gyntaf i elwa ac edrychwn ymlaen at groesawu’r llywydd, Tom Tudor a’i dîm yn ystod y sioe.

“Mae ein swyddfa newydd yn mwynhau safle amlwg ar faes y sioe ac mae mewn lleoliad strategol yng nghanol Cymru, sy’n ei wneud yn lleoliad delfrydol i gynnal cyfarfodydd ac i wasanaethu’n
cleientiaid.”

Mae gan yr adeilad ffrâm bren deulawr, yn un o rodfeydd prysuraf maes y sioe, gyferbyn â’r Bandstand poblogaidd, 1,025 troedfedd sgwâr o lawr mewnol gros gyda 1,829 troedfedd sgwâr o ddeciau allanol o dan feranda fawr.

Mae gan yr adeilad dderbynfa, cegin ac ardal paratoi bwyd a storfa ar y llawr gwaelod, gyda swyddfa/ystafell gyfarfod a thoiled ar y llawr cyntaf.

Darparwr Addysg Bellach ôl-16 yw Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n arbenigo mewn cyflwyno prentisiaethau, cyfleoedd a chyrsiau hyfforddiant busnes Twf Swyddi Cymru ar draws ystod o ddiwydiannau ledled Cymru. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn teilwra hyfforddiant i fodloni anghenion penodol cyflogwyr a dysgwyr.