Cwmni hyfforddiant yn chwilio am gyfleoedd busnes newydd ar ôl symud eu pencadlys

Mae cwmni hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau yn chwilio am fwy o gyfleoedd busnes newydd ar y ddwy ochr i ffin Cymru ar ôl symud i bencadlys newydd trawiadol yn y Trallwng.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi canoli eu gweithredoedd busnes yn Nh? Cambrian, Uned 10, Parc Busnes Clawdd Offa, 1,100 troedfedd sgwâr o faint, lle mae yna ddigon o le i dyfu yn y dyfodol.

Mae’r rheolwr gyfarwyddwr a chadeirydd Arwyn Watkins yn awyddus i ddefnyddio'r ganolfan newydd fel sbardun i sicrhau cyfleoedd busnes newydd, yn enwedig yn dilyn cyflwyno prentisiaethau Trailblazer yn Lloegr.

Yn edrych allan o’i swyddfa dros Ddyffryn Hafren tuag at y Trallwng a’r ffin â Swydd Amwythig, meddai: “Mae T? Cambrian yn rhoi cyfle cyffrous i’r cwmni ehangu dros y ffin i Loegr, sydd ar ein stepen drws.

“Ar gyfer rhai agweddau o’n busnes mae gennym well synergedd â Lloegr nag unrhyw ran o Gymru. Weithiau mae angen i ni edrych tuag at y dwyrain yn hytrach nag edrych tuag at y gorllewin bob amser.”

Dyluniwyd prentisiaethau Trailblazer i roi cyflogwyr wrth y llyw â ph?er prynu, cynyddu ansawdd prentisiaethau a symleiddio’r system. Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed o dair miliwn o brentisiaethau newydd yn dechrau yn Lloegr erbyn 2020.

Trailblazers yw grwpiau o gyflogwyr mewn sectorau cyffredin sy’n ailysgrifennu’r safonau prentisiaeth ar gyfer rolau swyddi yn eu sector. Bydd y safonau newydd yn raddol yn cymryd lle’r fframweithiau sydd eisoes yn bodoli y mae prentisiaethau presennol wedi seilio arnynt.
 
Mae gan Gymru well gyfradd lwyddiant prentisiaethau na Lloegr, a phenderfynodd beidio â newid y ffordd mae prentisiaethau’n cael eu darparu.
 
O dan brentisiaeth Trailblazer, mae gan y cyflogwr berthynas uniongyrchol â’r cwmni hyfforddiant y mae’n dymuno ymgysylltu ag ef. Mae llwyddiant y rhaglen hyfforddiant yn cael ei archwilio â phrawf neu asesiad annibynnol ar y diwedd.
 
“Mae’n fwy o farchnad agored o lawer, trefniant busnes i fusnes a bydd cyflogwr eisiau lleihau unrhyw risg trwy ddewis ansawdd,” meddai Mr Watkins, cyn gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. “Byddant yn chwilio am gwmnïau hyfforddiant â llwyddiant blaenorol ynghyd â chefndir o fod yn agored i archwilio allanol.
 
“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn fusnes sy’n gyfarwydd â’r prawf ar y diwedd ac nid yw’n rhywbeth sy’n ein dychryn.”
 
Mae’n awyddus i’r cwmni archwilio’r potensial i ddarparu rhaglenni hyfforddiant i gadwyn gyflenwi ei gleientiaid sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru a dod yn ganolfan asesu ar gyfer cymwysterau Trailblazer, y bydd galw amdanynt ar gyfer prentisiaethau Trailblazer.
 
“Efallai y bydd cyfleoedd lle bydd busnesau yn Lloegr yn gallu cael contract uniongyrchol â ni,” meddai. “Pan fyddwch yn ystyried yr holl fusnesau byddwn yn gweithio â nhw yng Nghymru, ceir cyfle posibl i fod yn agored i’w cadwyn gyflenwi trwy atgyfeiriadau busnes i fusnes.”
 
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn cyflogi 51 aelod o staff ar draws Cymru, ac enillodd wobr Darparwr Prentisiaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth 2007 a 2012 ac enillodd ail wobr ar gyfer Gwobr y Darparwr ar gyfer Gweithio mewn Partneriaeth y llynedd.
 
Gweithgaredd craidd y cwmni yw darparu rhaglenni prentisiaeth a chyfleoedd Twf Swyddi Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.
 
Capsiwn y llun:
Y rheolwr gyfarwyddwr a chadeirydd Arwyn Watkins y tu allan i bencadlys newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com.