Cystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc 2018

Galwn allan am BOB cigydd prentis 18 i 23 oed wrth inni chwilio am Brif Gigydd Ifanc 2018.

Bydd y gystadleuaeth pedair awr, chwe chategori, a lwyfennir yn y FOODEX yn yr NEC yn Birmingham ar 16 Ebrill 2018, yn profi sgiliau crefft y cystadleuwyr i’r eithaf. Yma bydd y beirniaid yn asesu ac yn gwerthuso cystadleuwyr am arloesedd, arferion gweithio da, manwl gywirdeb ac amrywiaeth o gynhyrchion Parod i’w Bwyta, Rhost wedi’i Stwffio, Cigyddiaeth Torri ar hyd y Cyhyr, Barbeciw, Parod i’r Gegin ac Arddangosfa.

Mae cystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc 2018, a gynhelir gan William Reed Media, yn addo bod yr un mor llwyddiannus â’r blynyddoedd a fu wrth adnabod doniau fel Ryan Healy, Andrew Brassington, Chris Riley a Joe Smith a gystadlodd yn erbyn prentisiaid elitaidd eraill o Awstria, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd a’r Swistir yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol. Neu fel James Gracey, Dylan Gillespie a Lucy Webster  sydd hefyd yn mynd ymlaen i gystadlu ochr yn ochr â Matthew Edwards, Peter Rushforth a Siop Cigydd y Flwyddyn 2017, Pencampwr y Cigyddion Ifanc James Taylor wrth ennill gwobr Cigyddiaeth World Skills UK.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 2 Chwefror 2018 i unrhyw un 18 i 23 oed sy’n credu eu bod nhw’n ddigon da, neu unrhyw gyflogwr sy’n credu bod ganddynt rywun sy’n ddigon da, i gystadlu ar y lefel uchaf. Dylid mynd i www.nfmft.co.uk neu anfon e-bost at roger@nfmft.co.uk am ffurflen gais, Canllawiau a rhagor o wybodaeth.