Darparwr hyfforddiant yn gosod her 1000 milltir ar gyfer Ymchwil Canser

Yn y llun yn ôl i’r chwith i’r dde, Vicky Watkins, Donna Heath a Katy Godsell. Blaen, Alex Hogg. Llun gan Phil Blagg.

Bydd staff o un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru yn gweithio’n galed i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser yn 2019.

Mae gan y cwmni swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-muallt, Caergybi a Bae Colwyn, ac mae wedi gosod her i’w hun o redeg, cerdded a beicio, gan ymweld â phob un o 22 sir Cymru, yn ystod y flwyddyn.

Gobaith y staff yw y bydd prentisiaid a chyflogwyr y mae’r cwmni’n gweithio â hwy yn ymuno â’r her codi arian ar gyfer Ymchwil Canser.

Nod Hyfforddiant Cambrian yw codi nawdd £1 y filltir i’r her, a fydd yn cyfrannu tuag at darged codi arian y cwmni o £1,500 i’r elusen.

Os aiff popeth yn unol â’r cynllun, mae’r cwmni’n gobeithio cyflawni’r targed pan fydd tîm Hyfforddiant Cambrian yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r cwmni fabwysiadu Ymchwil Canser fel ei elusen, ar ôl codi £855 yn 2018 â Diwrnod Siwmper Nadolig, rafflau, gwerthu cacennau, Diwrnod Pinc a Thriathlon “Try it” gan y rheolwr marchnata Katy Godsell.

“Rydym wedi cyfrifo bod angen i ni deithio 45.5 milltir ym mhob sir yng Nghymru i gyrraedd ein targed yn ystod 2019,” dywedodd Katy. “Rydym wedi dewis cynnwys yr holl siroedd i ddarlunio bod Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau ledled Cymru.

“Rydym wedi creu tudalen codi arian –  https://fundraise.cancerresearchuk.org/page/team-cambrian-challenge-2019 –  fel bod arian yn mynd yn syth i Ymchwil Canser a gellir cwblhau’r 1,000 milltir trwy gerdded, rhedeg neu feicio, ond mae’n hanodol cofnodi’r pellter.  Rydym yn gobeithio y bydd staff, prentisiaid a chyflogwyr eisiau cymryd rhan yn yr her hon ar gyfer elusen sy’n cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl yng Nghymru. Byddai’n wych petaem ni’n gallu cyrraedd ein targed codi arian erbyn i Dîm Cambrian redeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref.”

Mae Katy, Vicky Watkins, Alex Hogg, Donna Heath, Kim Williams, Faith O’Brien a Tracey Dawson eisoes wedi cofrestru yn y tîm.

Bydd y cwmni hefyd yn trefnu cyfres o weithgareddau eraill llai ar hyd y flwyddyn i gyfrannu at ei darged codi arian.

Mae Hyfforddiant Cambrian yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.