Dewch i gwrdd â’n rhyfelwyr lles

Ffurfiwyd ein grŵp hyrwyddwyr iechyd meddwl a lles yn gynharach eleni i annog a chefnogi ein staff i helpu eu hiechyd meddwl a’u lles cyffredinol eu hunain ac eraill.

Maent wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu adnoddau i’w rhannu’n fewnol ac wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau; i gyd er mwyn cefnogi lles staff.

Mae nifer o’r tîm wedi cwblhau hyfforddiant perthnasol i ddod yn  Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddw, sy’n rhoi’r offer, y ddealltwriaeth a’r hyder i aelodau ymdrin ag amrywiaeth o faterion iechyd meddwl a lles.

Mae’r grŵp yn cynllunio o amgylch ffocws neu ‘thema’ misol, sy’n ymdrin â materion fel cwsg, straen a hobïau.

Yn eu cyfathrebiadau diweddaraf, fe wnaethon nhw rannu’r 5 Ffordd at Les:

  • Cysylltu – mae teimlo’n werthfawr ac yn agos at bobl eraill yn angen dynol sylfaenol ac yn un sy’n cyfrannu at les.
  • Estyn allan – mae ymchwil yn awgrymu bod unigolion sy’n dweud bod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn helpu eraill yn fwy tebygol o ystyried eu hunain yn hapus.
  • Cymerwch sylw – dyma werthfawrogi’r byd o’n cwmpas a bod yn bresennol, a elwir yn aml yn ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Daliwch ati i ddysgu -gall defnyddio eich ymennydd i ddysgu rhywbeth newydd helpu i wella eich lles.
  • Byddwch yn actif – mae cadw’n heini yn effeithiol i gynnal eich iechyd corfforol a meddyliol.

Ewch i wefannau Mind a’r GIG i gael rhagor o wybodaeth am y 5 Ffordd at Les.

Soniwyd hefyd am bwysigrwydd maeth, a sut y gall hyn chwarae rhan fawr mewn cynnal iechyd meddwl a lles da, gan y gall diet effeithio’n uniongyrchol ar sut rydych yn teimlo. Gall gwella’ch diet helpu i wella’ch hwyliau, rhoi mwy o egni i chi a’ch helpu i feddwl yn gliriach.

Yn ddiweddar rhannodd y grŵp gyfuniad o ryseitiau bwyd a diod a meddyginiaethau naturiol defnyddiol, a gyfrannwyd gan y staff ehangach. Roedd hyn yn cynnwys rysáit ar gyfer sudd dadwenwyno, manteision bwydydd wedi’u heplesu a sut i gymryd bath halen epsom.

Yn ogystal ag awgrymiadau a chyngor, maent hefyd wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau. Ym mis Tachwedd, ymunodd staff â’i gilydd i gymryd rhan mewn sesiwn cerdded a siarad ar hyd Camlas Trefaldwyn ddarluniadol, ger ein Prif Swyddfa yn y Trallwng. Mae hyn yn cyfuno cysylltiad, cymryd sylw ac aros yn actif o’r ffyrdd i les uchod.

Mae ein rhyfelwyr lles gwych yn parhau i symud ymlaen ac adolygu ffyrdd newydd o gefnogi holl staff Hyfforddiant Cambrian ac yn croesawu awgrymiadau a chyfraniadau.

Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl, edrychwch ar y dolenni isod neu cysylltwch â’r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru: 0800132737

 The Samaritans              Mind                 Mental Health Matters Wales